Watkins: Apêl i beidio trafod manylion

  • Cyhoeddwyd
Ian WatkinsFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Ian Watkins yn "derbyn ei fod yn bidoffeil penderfynol a chyson"

Wrth i Heddlu'r De ymchwilio i ddod o hyd i fwy o ddioddefwyr cam-drin gan Ian Watkins, fe ddaeth i'r amlwg eu bod nhw'n destun ymchwiliad gan Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (CCAH).

Fe blediodd canwr y grŵp Lostprophets yn euog i 11 cyhuddiad yn ymwneud â cham-drin plant yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mawrth, gan gynnwys cyhuddiadau o geisio treisio babi.

Bydd yn cael ei ddedfrydu ar Ragfyr 18 ynghyd â dwy fenyw - na ellir eu henwi am resymau cyfreithiol - oedd hefyd wedi cyfaddef i gyfres o droseddau yn erbyn eu plant.

Mae CCAH yn ymchwilio os wnaeth Heddlu'r De ymateb yn ddigon buan pan ddaeth honiadau am Watkins i'w sylw.

'Pedwar llu'

Yn gynharach eleni dywedodd cyn gomisiynydd CCAH yng Nghymru, Tom Davies, eu bod wedi derbyn sylw gan Heddlu'r De yn Ionawr 2013 yn ymwneud ag achos Watkins.

Cadarnhaodd Mr Davies bod ymchwiliad annibynnol yn cael ei gynnal, gan ddweud:

"Bydd ein hymchwiliad yn penderfynu os gwnaeth Heddlu'r De fethu a gweithredu'n briodol ac amserol mewn perthynas â gwybodaeth oedd ganddyn nhw cyn i Mr Watkins gael ei arestio'n ddiweddarach.

"Rydym yn ymwybodol o bedwar llu heddlu a roddodd wybodaeth i Heddlu'r De."

'Teimladau'n gryf'

Ychydig wedi i fanylion o ymddygiad llygredig Watkins gael eu cyhoeddi, fe ddechreuodd sibrydion ymddangos ar wefannau cymdeithasol am faint y cam-drin, ac am ddioddefwyr posib eraill.

Ond mae Heddlu'r De wedi apelio ar ddefnyddwyr y gwefannau i beidio trafod yr achos mewn ffordd a fyddai'n arwain at adnabod y dioddefwyr.

Dywedodd y Ditectif Prif-Arolygydd Peter Doyle, a fu'n arwain yr ymchwiliad:

"Yn amlwg mae teimladau'r cyhoedd yn gryf am yr achos yma ac mae llawer wedi troi at wefannau cymdeithasol i siarad am faterion sy'n codi ohono.

"Fodd bynnag mae perygl real iawn y gallai peth o'r manylion sy'n cael eu cyhoeddi arwain at adnabod y dioddefwyr, ac fe fyddai hynny'n achosi pryder mawr iawn iddyn nhw a'u teuluoedd."

Ychwanegodd y gallai pobl sydd wedi eu heffeithio gan yr achos gysylltu gyda Heddlu'r De ar 029 2063 4184, neu gyda'r NSPCC ar 0808 800 5000.