Y gwaethaf o'r storm drosodd?
- Cyhoeddwyd

Dyma oedd yr olygfa yn Neganwy amser cinio

Cafodd amddiffynfeydd llifogydd y Rhyl eu niweidio

Mae llawer o eiddo wedi cael effeithio'n ddifrifol gan y dŵr

Cafodd Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ddiwrnod prysur

Nid Rhyl oedd yr unig le i gael ei effeithio - cafydd y don yma ei gweld ym Mhorth Eirias, Bae Colwyn
Mae 90 o bobl yn parhau i gysgodi mewn canolfan hamdden wedi i lanw effeithio ar hyd at 400 o dai yn Y Rhyl.
Ac mae'r tywydd garw yn golygu bod 400 o dai heb drydan mewn ardaloedd cyfagos. Ar un cyfnod roedd 400 o bobl yn y ganolfan.
Mae disgwyl llanw uchel arall yn yr ardal toc wedi hanner nos ond does dim disgwyl llifogydd difrifol y tro yma.
Amser cinio y tarodd y storm ardaloedd y glannau yng ngogledd Cymru gan achosi i ffyrdd ac ysgolion orfod cau.
34 o alwadau
Yn Sir Ddinbych bu'r RNLI a'r gwasanaethau brys yn helpu 25 o bobl a chwech o gŵn o'u tai gyda rhai yn gorfod teithio mewn cychod plastig. Pan roedd y storm ar ei anterth bu'r gwasanaethau tân yn ymateb i 34 o alwadau a hynny mewn cyfnod o bedair awr.
Mi gafodd ffyrdd eu heffeithio yn Wrecsam gyda choed yn disgyn ac mae trenau Arriva yn dweud bod y storm wedi effeithio ar rai o'u gwasanaethau.
Roedd trigolion mewn dwy ardal yn y Fflint wedi cael eu hannog i adael eu tai rhwng Caeglas a Bagillt ac yn Y Parlwr Du. Ond mae pobl wedi dychwelyd erbyn hyn.
Am 4pm cafodd y rhybuddion am y tywydd gwael eu codi ac yn ol cyflwynydd tywydd BBC Cymru, Owain Wyn Evans "does dim disgwyl i'r sefyllfa fod mor ddrwg dros y dyddiau nesaf."
Cadw golwg
Mae Heddlu Gogledd Cymru hefyd wedi dweud y bydd yna fwy o swyddogion o gwmpas yn ardal Rhyl a Bae Cinmel heno er mwyn cadw golwg ar eiddo sydd bellach yn wag am fod pobl wedi gorfod gadael eu tai.
Dywed y Prif Uwcharolygydd Jeremy Vaughan, sy'n rheoli ymateb yr asiantaethau ar draws y gogledd: "Er bod y perygl wedi mynd heibio rydym yn asesu'r sefyllfa ac yn cynnig help lle bo angen.
"Dylai pobl gadw golwg ar negeseuon y gwasanaethau brys ar-lein ar newyddion ar y radio a theledu."
Mae prif weithredwr Cyngor Dinbych wedi dweud y bydd ymdrechion yn parhau i ffeindio llety i'r rhai yn yr ardaloedd sydd wedi eu heffeithio gwaethaf.
Ddydd Gwener bydd canolfan wybodaeth yn agor i gynnig cymorth i bobl yn Y Rhyl ac mae disgwyl i gronfa gael ei hagor fel bod pobl yn medru cyfrannu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2013
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2013