Clirio'n parhau wedi llifogydd Sir Ddinbych

  • Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, John Hardy
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gwasanaethau yn asesu'r difrod yn yr ardal

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r tywydd wedi achosi difrod ar hyd arfordir y gogledd

Disgrifiad o’r llun,

Mae gweithwyr y cyngor wedi bod yn clirio'r strydoedd

Ffynhonnell y llun, Trenau Arriva Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y rheilffordd ei chau ym Mostyn oherwydd difrod

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Sir Ddinbych y byddai'r gwaith clirio'n parhau am ddyddiau

Mae'r gwaith clirio'n parhau yn Y Rhyl wedi i lifogydd orfodi 400 o bobl i symud o'u cartrefi.

Dywedodd Cyngor Sir Ddinbych eu bod wedi dod o hyd i lety i 35 o bobl tra bod eraill wedi gwneud trefniadau eu hunain.

Mae criwiau tân wedi bod yn pwmpio dŵr o dai ar nifer o strydoedd yn y Rhyl ac mae tua 350 o dai yn dal i fod heb drydan.

Tra bod rhai ffyrdd ar gau, mae gwasanaethau trên wedi eu canslo.

Dywedodd Trenau Arriva Cymru na fyddai trenau'n rhedeg rhwng Caer a Rhyl tan ddydd Sadwrn Rhagfyr 7 oherwydd difrod ar hyd yr arfordir.

Ni fydd gwasanaethau rhwng Cyffordd Llandudno a Blaenau Ffestiniog yn rhedeg tan ddydd Iau Rhagfyr 12.

Ffynhonnell y llun, CRAIG COLVILLE
Disgrifiad o’r llun,

Daeth y tonnau dros yr amddiffynfeydd yn y Rhyl

Mae ffordd yr arfordir yn parhau i fod ar gau rhwng y Rhyl a Phrestatyn.

Dywedodd y cyngor nad oedd unrhyw broblemau ychwanegol dros nos a bod pawb yn Y Rhyl oedd wedi gorfod gadael eu cartrefi wedi cael llety dros dro.

Mae'r cyngor wedi anfon mwy o weithwyr i glirio ardal Ffordd Garford.

Bydd canolfan wybodaeth yng Ngorsaf Dân Y Rhyl i roi cyngor i bobl am faterion fel iechyd a diogelwch, tai ac yswiriant.

Yn y cyfamser, mae arweinydd Cyngor Sir Ddinbych Hugh Evans wedi dweud y bydd ymchwiliad i'r llifogydd yn cael ei gynnal.

Y bwriad yw gweld a oes angen mwy o fuddsoddiad mewn amddiffynfeydd i atal llifogydd yn y dyfodol.

Symud cannoedd

Cafodd cannoedd o'r Rhyl eu symud o'u cartrefi ddydd Iau wrth i lanw uchel a gwyntoedd cryfion daro'r ardal.

Cafodd ysgolion eu cau ac fe gafodd nifer o drenau eu canslo.

Roedd dau rybudd difrifol - hynny yw perygl i fywyd - mewn grym brynhawn Iau a nifer o rybuddion am lifogydd dros y gogledd.

Yn Sir Ddinbych bu'r RNLI a'r gwasanaethau brys yn helpu 25 o bobl a chwech o gŵn o'u tai gyda rhai yn gorfod teithio mewn cychod plastig.

Pan oedd y storm ar ei hanterth ymatebodd y gwasanaeth tân i 34 o alwadau mewn cyfnod o bedair awr.

Roedd trigolion mewn dwy ardal yn y Fflint wedi cael eu hannog i adael eu tai rhwng Caeglas a Bagillt ac yn Y Parlwr Du.

'Ofnadwy'

Un gafodd ei effeithio oedd Bill McNulty. Mae difrod ym mhob ystafell ei dŷ ac nid yw'n disgwyl cael symud i mewn erbyn y Nadolig.

"Daeth y dŵr i mewn yn sydyn iawn iawn, o fewn munudau roedd y dŵr wedi lledu drwy'r tŷ i gyd."

"Mae'n hollol ofnadwy, ac yn sioc a dweud y lleiaf.

"Dwi wedi gweithio am 50 mlynedd ac mae gweld yr holl ddifrod yn ofnadwy. Mae'n bryder ar hyn o bryd ond gobeithio bydd yr yswiriant yn talu am bopeth."