Tynnu palmentydd 'llygredig' ym Mhontypridd
- Cyhoeddwyd
Bydd palmentydd sydd â geiriau o gân gafodd ei hysgrifennu gan Ian Watkins arnynt yn cael eu tynnu o Bontypridd.
Cafodd y slabiau, sy'n cynnwys geiriau o'r gân 'Streets of Nowhere' y Lostprophets, eu gosod ar Stryd Tâf fel rhan o gynllyn adfywio yn y dref y llynedd.
Fis diwethaf, plediodd Watkins, 36 o Bontypridd, yn euog i nifer o droseddau rhyw difrifol, gan gynnwys ceisio treisio babi.
Dywedodd y cyngor y byddai'r slabiau yn cael eu tynnu cyn gynted a phosib.
Cafodd y slabiau eu gosod fel rhan o gynllun y cyngor i ddangos hanes a diwylliant yr ardal, ac mae geiriau o gân Tom Jones, 'Green Green Grass of Home' hefyd wedi eu rhoi ar balmant yn y dref.
Wedi i Watkins gyfaddef nifer o droseddau difrifol yn Llys y Goron Caerdydd fis diwethaf, roedd galwadau i dynnu'r meini o Bontypridd.
Wedi 'llygru'
Roedd elusen Kidscape wedi galw am eu tynnu, gan ddweud eu bod nhw wedi eu "llygru", a dywedodd AC Pontypridd, Mick Antoniw hefyd y dylai'r cyngor symud y meini.
Dywedodd Mr Antoniw: "Fy marn bersonol yw nad ydy hi'n syniad da i gadw rhywbeth mewn man cyhoeddus sydd a'r arwyddocâd yma.
"Dwi'n meddwl y dylwn ei dynnu yn ddistaw a heb ffwdan.
"Roedd llawer o falchder am y band ym Mhontypridd ac mae'r hyn ddigwyddodd wedi synnu, arswydo a ffieiddio llawer o bobl."
Mewn datganiad, dywedodd Cyngor Rhondda Cynon Taf: "Gall y cyngor gadarnhau y bydd slabiau gwenithfaen sy'n cynnwys geiriau gafodd eu hysgrifennu gan y pedoffeil Ian Watkins yn cael eu tynnu o strydoedd Pontypridd cyn gynted a phosib."
Cyn y datganiad, dywedodd prif weithredwr elusen Kidscape, Claude Knights: "Mae troseddau Ian Watkins yn frawychus.
"Buasai'n ddoeth i'r cyngor ystyried tynnu'r slabiau. Mae ei waith wedi ei lygru.
"Dylai gael ei dynnu er mwyn y gymuned leol."
Cafodd y Lostprophets eu sefydlu ym Mhontypridd yn 1997 ac fe werthon nhw tua 3.5 miliwn albwm dros y byd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2013
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2013