Ian Watkins: Apêl gan weddill y band

  • Cyhoeddwyd
Lostprophets
Disgrifiad o’r llun,

Penderfynodd gweddill aelodau Lostprophets wahanu yn sgil y cyhuddiadau yn erbyn Ian Watkins (ail o'r chwith)

Mae gweddill aelodau'r grŵp Lostprophets wedi gwneud apêl i eraill allai fod wedi cael eu cam-drin gan gyn ganwr y band, Ian Watkins, i gysylltu â'r awdurdodau.

Fe wnaeth Watkins, 36, bleidio'n euog i nifer o droseddau rhyw ddydd Mawrth gan gynnwys ceisio treisio babi.

Dywedodd gweddill aelodau'r band nad oeddwn nhw fyth wedi dychmygu y gallai fod wedi cyflawni'r fath droseddau.

Mewn datblygiad arall mae Heddlu De Swydd Efrog wedi cyfeirio eu hunain at Gomisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu (IPCC) ynglŷn â'r ffordd wnaethon nhw ddelio gyda chwyn yn erbyn Watkins nôl yn 2012.

'Ymddygiad gwarthus'

Fe benderfynodd aelodau'r Lostprophets wahanu yn ddiweddar yn sgil yr honiadau yn erbyn Watkins ac mewn datganiad ar y we maen nhw'n dweud nad oedd ganddyn nhw syniad o'r hyn roedd o yn ei wneud.

Yn y datganiad mae Jamie Oliver, Lee Gaze, Luke Johnson, Mike Lewis a Stuart Richardson yn dweud eu bod wedi "gobeithio mai camgymeriad oedd y cyfan".

"Yn anffodus mae hi bellach yn amhosib gwadu hyd a lled ei ymddygiad gwarthus.

"Mae nifer ohonoch yn naturiol eisiau gwybod a oedden ni'n gwybod beth roedd yn ei wneud. I fod yn glir: doedden ni ddim."

Mae'r datganiad yn mynd ymlaen i ddweud eu bod nhw wedi "torri eu calonnau, yn flin ac wedi ein ffieiddio gan yr hyn sydd wedi ei ddatgelu" ac y byddai'r mater yn eu poeni am weddill eu bywydau.

Yn ogystal maen nhw'n erfyn ar unrhyw un a allai fod wedi eu heffeithio gan ymddygiad Watkins i gysylltu â'r awdurdodau.

Ymchwiliadau

Yn y cyfamser mae ymchwiliad yn cael ei gynnal wedi i Heddlu De Efrog benderfynu bod angen ail edrych ar y ffordd wnaethon nhw ddelio gyda chwyn gafodd ei wneud yn erbyn Watkins yn 2012.

Mae ymchwiliad i Heddlu De Cymru eisoes wedi ei gyhoeddi i ystyried a wnaethon nhw weithredu'n ddigon cyflym.

Fe wnaeth Watkins bledio'n euog i nifer o droseddau gan gynnwys ymosod yn rhywiol, gwneud a dosbarthu delweddau anweddus a cheisio treisio babi.

Mae dwy ddynes arall na ellir eu henwi am resymau cyfreithiol hefyd wedi pledio'n euog i gyfres o droseddau rhywiol.

Bydd y tri ohonyn nhw'n cael eu dedfrydu ar 18 Rhagfyr.