Llywodraeth i ddechrau ymchwiliad i'r llifogydd
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal i'r llifogydd a effeithiodd rhannau o ogledd Cymru yr wythnos ddiwethaf.
Yn y Senedd dywedodd y Gweinidog Cyfoeth Naturiol Alun Davies y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn arwain ymchwiliad gyda'r holl awdurdodau lleol a gafodd eu heffeithio yn cymryd rhan.
Meddai Mr Davies, AC: "Roedd hwn yn ddigwyddiad anghyffredin ac rydym yn ffodus na gollwyd unrhyw fywydau.
"Mae'r diolch am hynny i'r amddiffynfeydd sydd eisoes wedi eu hadeiladu, y darogan tywydd effeithiol yn ogystal ag ymdrechion y gwasanaethau argyfwng, Cyfoeth Naturiol Cymru a'r awdurdodau lleol."
Mae Cyngor Sir Ddinbych eisoes wedi galw am ymchwiliad.
Roedd aelod cabinet amgylchedd Cyngor Sir Ddinbych, David Smith wedi dweud fod y cyngor yn trafod cynnal ymchwiliad gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru er mwyn "deall pam ei fod wedi digwydd".
Yn y Rhyl mae'r gwaith clirio a glanhau wedi'r llifogydd yn y dref yn parhau.
Cafodd 130 o dai eu heffeithio wrth i wyntoedd cryf a llanw uchel godi lefel y môr ar arfordir gogledd Cymru ac mae'r cyngor yn dweud eu bod wedi dod o hyd i lety i dros 50 o bobl wedi'r llifogydd.
Er mai'r Rhyl gafodd ei effeithio waethaf roedd yna ddifrod i wal forol Mostyn yn ogystal â'r rheilffordd.
Ym Mae Cinmel cafodd chwech o dai eu heffeithio gan y llifogydd yn ogystal â thri yn Llanddulas ac un yn Nhraeth Coch ar Sir Fôn.
Ychwanegodd Mr Davies: "Oherwydd bod y llifogydd wedi effeithio rhan fawr o arfordir gogledd Cymru, y tro yma dwi'n meddwl y byddai'n well cael un adroddiad cynhwysfawr sy'n cynnwys yr holl gynghorau dan sylw yn hytrach na thri neu bedwar adroddiad gwahanol gan gynghorau unigol."
O dan gyfraith Llifogydd a Rheolaeth Dŵr 2010 mae llywodraethau lleol i fod i ymchwilio i lifogydd yn eu sir.
Mae'r llywodraeth ar hyn o bryd yn buddsoddi £240m i reoli risg llifogydd ac erydiad arfordirol ac maen nhw wedi derbyn £60m o arian ychwanegol i'w roi i dros 7,000 o gartrefi a busnesau yng Nghymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2013
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2013