Rali i nodi blwyddyn ers y cyfrifiad
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchwyr iaith wedi cynnal rali yn Aberystwyth, yn galw am newid polisi er lles y Gymraeg.
Cafodd cloeon eu gosod ar gatiau adeilad Llywodraeth Cymru gan Gymdeithas yr Iaith, blwyddyn ers i ganlyniadau Cyfrifiad 2011 ddangos cwymp yn nifer y siaradwyr Cymraeg.
Daw'r rali wedi i aelodau o'r gymdeithas gwrdd â'r Gweinidog Tai ac Adfywio, Carl Sargeant, i drafod effeithiau posib mesur cynllunio newydd ar yr iaith.
Mae'r llywodraeth yn dweud eu bod "wedi ymrwymo i hybu'r Gymraeg ac wedi cymryd camau ers canlyniadau'r Cyfrifiad".
'Amser i weithredu'
Yn siarad ddydd Sadwrn, dywedodd llefarydd cymunedau Cymdeithas yr Iaith, Toni Schiavone ei bod hi'n amser i weithredu.
"Mae'n bryd i wleidyddion Cymru weithredu dros y Gymraeg yn hytrach na chynnig mwy o siarad gwag," meddai.
"Mae amser yn brin er mwyn cyflawni newid a fydd yn troi'r sefyllfa'r iaith rownd.
"Mae 'na dri darn o ddeddfwriaeth - y Mesurau Tai, Cynllunio a Chenedlaethau'r Dyfodol - sy'n cynnig cyfle hanesyddol er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn rhan ganolog o'r broses gynllunio."
Ychwanegodd bod angen sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei hystyried i sicrhau nad oes lleihad pellach yn nifer y siaradwyr Cymraeg.
"Bydd y nifer o gymunedau Cymraeg ei hiaith yn parhau i leihau - ni fydd y Gymraeg yn parhau fel iaith fyw i ond llond dwrn o gymunedau.
"Mae gormodedd o ewyllys da a geiriau gwag a dim digon o ewyllys i weithredu."
Mae'r Gymdeithas am i'r llywodraeth weithredu chwe pholisi ym meysydd addysg Gymraeg i bawb, chwyldroi'r system gynllunio a hawliau iaith clir.
Mae'r Gymdeithas wedi rhoi tan Chwefror 1af i'r Prif Weinidog, Carwyn Jones, ddatgan ei fwriad i weithredu arnyn nhw.
Dywedodd aelod o bwyllgor cynllunio cyngor Sir Gaerfyrddin, y Cynghorydd Alun Lenny bod angen i'r llywodraeth wneud mwy i amddiffyn y Gymraeg.
"Mae Llywodraeth Cymru yn dangos diffyg ewyllys gwleidyddol i ddefnyddio'r drefn gynllunio i warchod y Gymraeg rhag ffactorau sy'n ei lladd."
'Llywodraeth wedi ymrwymo'
Yn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi ymrwymo i hybu'r Gymraeg ac wedi cymryd camau ers canlyniadau'r Cyfrifiad. Mae hyn yn cynnwys Y Gynhadledd Fawr - y drafodaeth genedlaethol gyntaf ynglŷn â'r iaith, a roddodd gyfle i bawb gael mynegi eu barn ar sut i ddiogelu dyfodol yr iaith.
"Mae'r Prif Weinidog eisoes wedi amlinellu ei ymateb cychwynnol i'r Gynhadledd Fawr, a oedd yn cynnwys mesurau i fagu hyder pobl i ddefnyddio'r iaith, hwyluso defnydd y Gymraeg yn y gweithle, a sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn cael ei ystyried ar draws pob portffolio gweinidogol.
"Bydd datganiad llawn yn dilyn yn y Gwanwyn."
Ychwanegodd y llefarydd bod y llywodraeth wedi "cyhoeddi TAN 20 diwygiedig yn amlinellu'r hyn a ddisgwylir i awdurdodau cynllunio ei wneud o ran yr iaith Gymraeg a bydd Safonau arfaethedig yn ymwneud a'r iaith Gymraeg yn cael eu cyhoeddi yn y Flwyddyn Newydd".
"Rydym hefyd wedi lansio ymgyrch gwybodaeth addysg gyfrwng Gymraeg, ac wythnos diwethaf, lansiwyd ein hymgyrch Twf Nadolig, yn annog rhieni i drosglwyddo rhodd y Gymraeg i'w plant.
"Byddwn yn parhau i weithio gyda'r rhai sydd â diddordeb yn yr iaith i'w diogelu ar gyfer y dyfodol ym mhob rhan o Gymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2013
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2013
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2012