Cyngor wedi gwneud taliadau 'anghyfreithlon'
- Cyhoeddwyd
Roedd Cyngor Sir Caerffili wedi gweithredu yn anghyfreithlon wrth 'brynu' hawliau lwfans gyrru a gwyliau gan uwch swyddogion, yn ôl archwiliwr annibynnol.
Dywedodd Swyddfa Archwilio Cymru bod y penderfyniad i dalu swyddogion oedd yn fodlon cael gwared ar eu hawliau i lwfans, wedi ei wneud heb yr awdurdod priodol, ac yn groes i reolau'r Cyngor.
Wrth gyhoeddi adroddiad yr ymchwiliad, dywedodd SAC ei fod yn amlygu "methiant mewn trefniadau llywodraethu yn y Cyngor ac at ddiffygion yn y prosesau a fabwysiadodd wrth wneud y taliadau hyn".
Mae'r Cyngor wedi dweud y byddan nhw'n gwneud ymchwiliadau pellach, ac yn gweithredu os oes angen.
'Taliadau anghyfreithlon'
Dywedodd adroddiad interim gan SAC yn gynharach eleni bod Cyngor Sir Caerffili wedi gwneud taliadau anghyfreithlon gwerth miloedd o bunnau.
Roedd rhan o hynny yn ymwneud a 'phrynu' hawliau swyddogion y cyngor i gael Lwfans Defnyddiwr Car Hanfodol (ECUA) a Lwfans Gwyliau Blynyddol (ALA) yn ôl.
Roedd y cyfrifon ar gyfer 2012-13 yn dangos bod y £218,563 wedi ei roi i swyddogion am lwfansau gyrru a gwyliau.
Yn ôl yr archwilydd, Anthony Barrett, roedd y Cyngor wedi gweithredu mewn ffordd anghyfreithlon oherwydd tri rheswm:
Cafodd y penderfyniad i brynu'r lwfansau ei wneud heb yr awdurdod oedd ei angen, a doedd dim cofnod clir o sut y cafodd y penderfyniad ei wneud.
Roedd gwrthdaro buddiannau yn achosion y swyddogion wnaeth y penderfyniad, gan fod gan bob un ohonynt fudd ariannol neu bersonol yn y penderfyniad.
Does dim tystiolaeth o benderfyniad y grŵp i brynu lwfansau wedi cael ei gyhoeddi, sydd yn mynd yn erbyn cyfansoddiad y cyngor.
'Tynnu sylw'r cyhoedd'
Dywedodd yr Archwiliwr, Anthony Barrett, ei fod wedi cyhoeddi'r adroddiad er mwyn tynnu sylw'r cyhoedd at fethiannau'r Cyngor.
"Mae gan y Cyngor wersi amlwg i'w dysgu ynghylch y prosesau a ddilynwyd wrth benderfynu talu'r Prif Swyddogion am eu hawliau i lwfans car a gwyliau blynyddol," meddai.
"Mae natur anffurfiol y cyfarfodydd a'r penderfyniadau, y gwrthdaro buddiannau, y diffyg cofnodi, y methiant i ddilyn cyngor a chyhoeddi penderfyniadau, - mae'r rhain i gyd yn destun pryder sylweddol ac mae angen i'r cyhoedd fod yn ymwybodol o'r hyn sydd wedi digwydd.
"Mae gan y Cyngor fis yn awr i ymateb i'r adroddiad ac i dynnu sylw at y camau y mae'n ei gymryd er mwyn sicrhau nad yw hyn byth yn digwydd eto."
Mae Prif Weithredwr dros dro'r Cyngor wedi croesawu'r adroddiad, gan gyfaddef bod methiannau wedi digwydd gan swyddogion y Cyngor wrth beidio â dilyn rheolau.
"Mae'r mater yma yn dyddio yn ôl i 2012 a dylid nodi bod y Cyngor wedi cyfeirio'r mater at archwilwyr yn wirfoddol ym mis Ebrill 2013," meddai Stuart Rosser.
Dywedodd Mr Rosser y byddai adroddiad pellach ar ddulliau rheoli gan SAC yn y flwyddyn newydd, ac ychwanegodd:
"Bydd y Cyngor nawr yn ystyried cynnwys yr adroddiad yn ofalus a bydd cyfarfod o'r Cyngor yn cael ei gynnal ym mis Ionawr lle bydd swyddogion yn trafod pa gamau pellach sy'n addas."
'Annerbyniol'
Dywedodd y Cynghorydd Colin Mann, arweinydd Plaid Cymru yn y cyngor, bod ymddygiad y grŵp yn yr achos yma yn "gwbl annerbyniol".
"Mae gan unrhyw un sydd mewn swydd gyhoeddus y ddyletswydd i sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei wario er budd y cyhoedd.
"Mae angen i'r Cyngor ystyried os bydd yr arian gafodd ei roi yn anghyfreithlon gael ei ad-dalu. Nid yw'n dderbyniol i unrhyw un gafodd arian yn y ffordd yma i'w gadw."
Ychwanegodd bod ei ffydd yn y Cyngor wedi diflannu, a bod angen ymchwiliad pellach i weld os gafodd fwy o daliadau anghyfreithlon eu gwneud.
"Mae'r holl sefyllfa yn sgandal ac mae gan y cyhoedd yr hawl i deimlo dicter fel ydw i."
'Problemau systemig'
Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, Darren Millar AC, bod yr adroddiad gan SAC yn peri pryder mewn cyfnod lle mae toriadau mawr ar gyllidebau awdurdodau lleol.
"Gan fod bygythiad i'r prif wasanaethau, a staff gwerthfawr yn wynebu'r posibilrwydd o golli eu swyddi neu fod eu cyflogau'n cael eu rhewi am gyfnod hir, dylai pob uwch-reolwr yn y sector cyhoeddus arwain drwy esiampl. Yn anffodus, ymddengys nad dyna fel y mae pethau yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
"Nawr, yn fwy nag erioed, mae'n hollbwysig ein bod yn cael pob un dafn o werth o bob punt o arian cyhoeddus.
"Bydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ystyried y canfyddiadau hyn fel rhan o'i ymchwiliad ehangach i gyflogau uwch-reolwyr yn sector cyhoeddus Cymru, a bydd yn cyhoeddi adroddiad y flwyddyn nesaf."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd10 Medi 2013
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2013