Rhybudd am law trwm yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law cyson ar gyfer de, gorllewin a chanolbarth Cymru dydd Llun.
Daeth y rhybudd i rym am hanner dydd ac mae'n para tan naw o'r gloch fore Iau.
Mae'r rhybudd yn golygu y dylai pobl fod yn ymwybodol o'r tywydd.
Mae'r Swyddfa Dywydd yn dweud bod yna berygl o fwy o lifogydd, yn enwedig mewn ardaloedd sydd wedi eu heffeithio yn barod.
Mi allai cymaint â 30-40 mm o law ddisgyn mewn rhai ardaloedd.
Dinistr
Mae'r gwyntoedd cryfion a'r llanw uchel wedi effeithio ar arfordir Cymru yn ystod yr wythnos diwethaf gan achosi dinistr.
Mae promenâd Aberystwyth wedi ei ddifrodi a phobl wedi gorfod gadael eu cartrefi.
Yn ystod y dyddiau diwethaf mae ffyrdd hefyd wedi cau mewn ardaloedd fel Sir Benfro a phroblemau wedi bod gyda'r gwasanaethau trenau.
Mae'r trafod wedi dechrau ynglŷn â phwy fydd yn ariannu y gwaith atgyweirio. Eisoes mae Llywodraeth Cymru wedi dweud nad oes ganddyn nhw "bwll diwaelod o arian" ar gyfer cynghorau.
Yn ystod cwestiynnau'r Prif Weinidog yn San Steffan fore Mercher, dywedodd David Cameron y bydd adroddiad yn cael ei baratoi erbyn diwedd y mis yn asesu lefelau gwariant y dyfodol ar amddiffynfeydd rhag llifogydd.
Dywedodd hefyd y bydd pwyllgor argyfwng Cobra yn parhau i gyfarfod hyd nes bydd y tywydd yn gwella.
Fe dalodd deyrnged i'r saith sydd wedi colli'u bywydau yn ystod y llifogydd a diolch i'r gwasanaethau brys a gweithwyr eraill am eu hymateb.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2014