Disgwyl i'r tywydd garw gilio wedi rhagor o stormydd

  • Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Athena Pictures
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd pobl eu symud o'u cartrefi yn Aberystwyth oherwydd y tonnau mawr

Ffynhonnell y llun, AP
Disgrifiad o’r llun,

Roedd tonnau anferth ym Mhorthcawl

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y Swyddfa Dywydd yn rhybuddio bod pob rhan o arfordir Cymru dan fygythiad

Mae gwyntoedd cryfion a llanw uchel wedi taro rhan helaeth o arfordir Cymru unwaith eto ond mae arbenigwyr yn darogan fod y gwaetha' drosodd am y tro.

Am y bedwaredd noson yn olynnol, roedd yna rybudd o lanw uchel a bu'n rhaid symud pobl o bob un adeilad ar hyd promenâd Aberystwyth nos Lun cyn i donnau anferth daro.

Doedd 150 o fyfyrwyr sy'n byw mewn fflatiau ar hyd lan y môr y dre' ddim yn cael dychwelyd nes i brofion diogelwch gael eu cynnal, ond fe gawson nhw wybod amser cinio ddydd Mawrth ei bod yn ddiogel iddynt wneud hynny.

Bydd Ysgol Friars, Bangor ynghau hefyd ddydd Mawrth am fod yna ddifrod i'r to oherwydd y gwyntoedd cryfion.

Ond mae disgwyl i'r stormydd gilio wrth i'r wythnos fynd yn ei blaen.

Rhybuddion llifogydd

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cyhoeddi bod yna rybuddion llifogydd, dolen allanol yn parhau mewn grym, ynghyd â rhybuddion i fod yn wyliadwrus am lifogydd mewn grym yn ne orllewin, canolbarth a gogledd ddwyrain Cymru.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd nad oedd unrhyw rybudd tywydd mewn grym yng Nghymru ddydd Mawrth, gyda disgwyl glaw man a gwyntoedd ysgafnach weddill yr wythnos.

Yn y cyfamser, mae'r gwaith o lanhau wedi'r tywydd mawr yn parhau ar hyd arfordir Cymru.

Cafodd promenâd Aberystwyth ei gau nos Lun am resymau diogelwch ond doedd dim adroddiadau fod unrhyw broblemau pellach wedi codi.

Cafodd canolfan gymorth ei sefydlu yng Nghanolfan Hamdden Plascrug ar gyfer trigolion oedd wedi gorfod gadael eu cartrefi.

Mae'r brifysgol wedi cynghori myfyrwyr sydd heb ddychwelyd i'r dre' wedi gwyliau'r Nadolig i gadw draw nes eu bod yn clywed fel arall.

Mae arholiadau hefyd wedi cael eu gohirio am wythnos.

Atgyweirio

Dyw'r dre' ddim wedi gweld cymaint o ddifrod oherwydd y môr ers 1938, a bryd hynny roedd yn rhaid ailadeiladu'r promenâd.

Ffynhonnell y llun, other
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Cyngor Ceredigion fod cyfarfod yn cael ei gynnal ddydd Mawrth i drafod y gwaith sydd angen eu wneud yn dilyn y llifogydd

Bydd hynny'n gorfod digwydd eto nawr dros y misoedd nesa'.

Pan fydd y gwaith asesu a chlirio yn dechrau mae'r Cyngor yn cyfaddef y bydd yn rhaid ailedrych ar amddiffynfeydd Aberystwyth ac mae'r trafod wedi dechrau ynglŷn â phwy yn union fydd yn talu costau'r gwaith atgyweirio.

Mae cynghorau eraill ar draws Cymru hefyd yn asesu'r difrod wedi'r tywydd garw.

Mae Cyngor Sir Benfro wedi dechrau ar y gwaith o glirio cerrig o'r arfordir ger Niwgwl a'r gobaith yw ailagor y ffordd yno erbyn diwedd yr wythnos. Mae cynlluniau hefyd i agor lôn dros dro ar yr arfordir yn Amroth, gan y gallai'r gwaith o atgyweirio'r morglawdd yno gymryd hyd at chwe mis.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dweud nad oes pwll diwaelod o arian ar gael i gynghorau.

Yn y cyfamser, dywedodd Dŵr Cymru bod eu swyddogion yn gweithio'n galed i sicrhau nad oedd cwsmeriaid yn colli cyflenwadau yn ystod y tywydd garw.

Meddai eu Prif Swyddog Gweithredol, Peter Perry: "Mae ein timau wedi bod yn gweithio'n eithriadol o galed ym mhob ardal yn wynebu rhai o'r amodau tywydd gwaetha' mewn dros ddegawd.

"Wrth baratoi ar gyfer hyn fe wnaethom sicrhau fod gennym staff ychwanegol i ddelio â chynnydd mewn galwadau ac i ymateb i achosion o lifogydd."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol