Rhybudd i adael cartrefi neu fusnesau ar lan y môr yn Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Athena Pictures
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd pobl eu symud o'u cartrefi yn Aberystwyth oherwydd y tonnau mawr

Disgrifiad o’r llun,

Roedd y tonnau wedi difrodi'r Promenâd yn Aberystwyth, ac roedd pryder am ddifrod pellach i gartrefi

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio bod pob rhan o arfordir Cymru dan fygythiad

Mae cyngor wedi rhybuddio pobl i adael cartrefi neu fusnesau ar lan y môr yn Aberystwyth cyn llanw uchel nos Lun.

Bydd y llanw uchel am 11:37pm.

Dywedodd y cyngor: "Oherwydd difrod ar hyn o bryd fe allai'r llanw achosi niwed difrifol, llifogydd sylweddol a difrod i adeiladau.

"Dylai pobl sy'n byw ar y promenâd adael eu cartrefi a'u busnesau cyn gynted â phosib' cyn 10pm a mynd i'r ganolfan gefnogaeth yng Nghanolfan Hamdden Plascrug."

Eisoes mae 250 o fyfyrwyr wedi eu symud yn Aberystwyth oherwydd y tywydd garw.

Cafodd 150 o fyfyrwyr oedd mewn neuaddau eu symud i gampws arall ac mae 100 oedd mewn tai preifat wedi gorfod symud.

Mae'r brifysgol wedi anfon cyngor arbennig, dolen allanol at fyfyrwyr.

Ar un adeg roedd pedwar rhybudd llifogydd yn Aberystwyth, Amroth, Caernarfon a'r Borth.

Mae manylion yr holl rybuddion ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru., dolen allanol

Peidio â dychwelyd

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi dweud wrth yr holl fyfyrwyr oedd yn byw yn y neuaddau preswyl glan môr neu lety preifat ar lan y môr i beidio â dychwelyd hyd nes y bydd y wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei chyhoeddi ddydd Mercher.

Yn ôl Rebecca Davies, Dirprwy Is-Ganghellor ar gyfer Gwasanaethau Myfyrwyr a Staff : "Mae ein timoedd o staff wedi bod yn cefnogi myfyrwyr sydd wedi dychwelyd i Aberystwyth ac sy'n byw yn un o'n preswylfeydd glan môr.

"Mae tua 150 o fyfyrwyr wedi cael eu hadleoli i brif gampws y brifysgol lle maen nhw'n cael eu cyflenwi â bwyd a diodydd poeth.

"Er bod y lluniau yn ddramatig, ac mae'r môr wedi golchi rhannau o'r promenâd i ffwrdd, mae ein hadeiladau yn ddiogel."

Mae arholiadau wedi eu gohirio tan yr wythnos nesaf ac mae'r brifysgol yn annog myfyrwyr i beidio â dychwelyd tan ganol yr wythnos nesaf.

Risg o lifogydd

Mae gwyntoedd cryfion a llanw uchel wedi golygu risg o lifogydd ar yr arfordir ddydd Llun.

Rhybuddiodd y Swyddfa Dywydd y gallai gwyntoedd hyd at 70 m.y.a. greu tonnau mwy na'r arfer.

Dywedon nhw y gallai tywydd gwael achosi niwed i bobl a chartrefi.

Disgrifiad o’r llun,

Tywydd gwael: mwy o ddifrod yn Aberystwyth

Ar un adeg roedd nifer o ffyrdd ar gau yn Aberystwyth a'r Borth ac yn Sir Benfro yn Niwgwl ac Amroth.

Mae'r heddlu yn annog pobl i beidio â gyrru drwy ddŵr dwfn, yn enwedig ar yr arfordir.

67 m.y.a

Dros nos cafodd gwyntoedd o 67 m.y.a. eu cofnodi yng Nghapel Curig, ac o gwmpas yr arfordir cafodd gwyntoedd ar gyflymder o 55mph eu cofnodi yn Aberdaron.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru: "Roedd y gwynt yn effeithio ar lanw fore dydd Llun, gan greu tonnau mawrion.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd y llanw uchel wedi achosi difrod dros y penwythnos, er enghraifft yn Amroth yn Sir Benfro

"Er nad ydym yn darogan y bydd yr amgylchiadau mor ddrwg â dydd Gwener, bydd y cyfuniad o wyntoedd cryf a llanw uchel yn gwneud yr arfordir yn lle peryglus i fod."

Osgoi

Cyngor CNC yw i osgoi mynd at lan y môr oherwydd "gall amodau barhau i fod yn beryglus yn enwedig oherwydd difrod wedi'r stormydd diweddar".

Mae disgwyl bydd yna broblemau gyda gwasanaeth trenau Arriva oherwydd llifogydd, ac mae bysys yn cludo teithwyr rhwng Blaenau Ffestiniog a Chyffordd Llandudno fore Llun.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd rhagor o wyntoedd cryfion eu cofnodi dros nos

Mae disgwyl y bydd y lein rhwng Machynlleth a Pwllheli wedi cau am nifer o wythnosau oherwydd y difrod sylweddol.

Mae gwasanaeth bws hefyd yn rhedeg rhwng Llanelli a Chaerfyrddin oherwydd rhwystrau ar y lein.

Fore Llun roedd cyfyngiadau cyflymder ar yr M48 Pont Hafren a Phont Britannia yng ngogledd Cymru oherwydd y gwynt.

Mae pob taith Stena Line rhwng Abergwaun a Rosslare wedi eu canslo.

Bydd staff CNC yn diweddaru eu gwefan bob chwarter awr a gall pobl sy'n byw mewn llefydd sydd â risg o lifogydd gofrestru am rybuddion am ddim wrth alw'r Llinell Llifogydd ar 0845 9881188.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol