Dechrau trwsio amddiffynfeydd llifogydd yn Llanbedr
- Cyhoeddwyd
Mae'r gwaith wedi dechrau i drwsio amddiffynfeydd llifogydd yn Llanbedr wrth ymyl Harlech wedi'r tywydd garw diweddar.
Mi achosodd y gwynt a'r llanw uchel fwlch 50 metr o led yn y wal amddiffyn.
Mae hynny wedi golygu bod pum tŷ wedi cael dŵr yn dod i mewn yn gyson ac mae mwy na mil o erwau o dir amaethyddol wedi eu heffeithio.
Ddwywaith y dydd ers i'r bwlch agor, mae'r llanw wedi bod yn gorlifo i'r cartrefi ac ar wyneb y caeau.
Ar ôl ymchwilio, mae'r corff amgylcheddol Cyfoeth Naturiol Cymru wedi penderfynu adeiladu ffordd dros dro i lenwi'r twll.
Ond maen nhw'n rhybuddio bod y gwaith yn anodd achos yn ystod cyfnodau pen llanw mae'r ardal yn gorlifo.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn dweud bod yn rhaid iddyn nhw ystyried y bywyd gwyllt tra'n gwneud y gwaith.
Bydd angen symud 15,000 tunnell o glai a phridd i lenwi'r gwagle.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2014