Rhybudd i osgoi cerdded ar hyd clogwyni Fflint

  • Cyhoeddwyd
Cricieth
Disgrifiad o’r llun,

Effeithiodd y tonnau mawr a'r gwyntoedd ar sawl ardal yng Nghymru

Mae 'na rybudd i bobl osgoi cerdded ar hyd clogwyni yn Y Fflint am fod peryg i'r clogwyni chwalu.

Mae'r tywydd garw diweddar wedi eu gwanhau a'r cyngor wedi cau rhai llwybrau ger y môr.

Yn ôl y Cynghorydd Bernie Attridge, yr aelod cabinet gyda chyfrifoldeb am yr amgylchedd, mi ddylai pobl gymryd sylw i'r arwyddion.

"Yn y gorffennol mae ffensiau ac arwyddion wedi eu tynnu i lawr felly rydyn ni yn gofyn i bobl fod yn ymwybodol o'r peryglon ac i ddilyn y llwybr cyhoeddus ar hyn o bryd."

Mae disgwyl ymchwiliad fydd yn asesu'r difrod wedi gwyntoedd cryfion a thonnau uchel yr wythnos diwethaf.

Dylai pawb gadw draw o ardaloedd ger y môr ac unrhyw lwybrau agored, meddai'r cynghorydd.