Cyhoeddi beirniaid gwobrau i gofio Dylan Thomas
- Cyhoeddwyd
Mae enwau'r beirdd fydd yn dyfarnu dwy wobr arbennig er cof am Dylan Thomas wedi eu cyhoeddi.
Y beirdd Menna Elfyn a Grahame Davies fydd yn beirniadu Gwobr Farddoniaeth Ryngwladol Dylan Thomas.
Un o feirniaid y Tlws Celf Gwydr Rhyngwladol, yw wyres Thomas, Hanna Ellis.
Mae'r gwobrau yn cael eu cynnal mewn cysylltiad â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, fel rhan o ddathliadau canmlwyddiant geni'r bardd.
Yn ymuno gyda Hanna Ellis i feirniadu'r Tlws Rhyngwladol Wydr mae'r arlunydd a chyn-lywydd Cymdeithas Dylan Thomas, Glenys Cour, Cadeirydd Meistri Celf Gwydr, Caroline Benyon, a'r Athro Medwin Hughes, sy'n is-ganghellor y Drindod Dewi Sant.
Rhaid i'r beirdd a'r cerflunwyr lunio gwaith o gwmpas y gair "harmoni".
Mae gwobr o £2000 i enillydd y gystadleuaeth farddoniaeth a £1000 i'r celf gwydr, a bydd yr enillwyr yn cael eu comisiynu gan y brifysgol i weithio ar ddarn ar y cyd fel teyrnged i Dylan Thomas.
Dyddiad cau ceisiadau i'r wobr farddoniaeth yw Mawrth 31, a Mai 1 am y wobr gelf gwydr.
Mi fydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi ym mis Gorffennaf, a bydd y gwaith yn cael ei arddangos yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2013