Tywydd: Llywodraeth o dan y lach
- Cyhoeddwyd
Mae nifer o arglwyddi o Gymru wedi dweud nad yw Llywodraeth Prydain yn sylweddoli pa mor ddifrifol oedd y tywydd ar arfordir Cymru.
Yn Nhŷ'r Arglwyddi, roedd yr Arglwydd Elystan-Morgan yn ddig pan ddywedodd gweinidog y llywodraeth mai cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru oedd penderfynu sut i ymateb i sgileffeithiau'r tywydd.
Roedd y sefyllfa yn Aberystwyth a llefydd eraill, meddai'r arglwydd, "yn fwy difrifol na'r hyn yr oedd Llywodraeth Prydain yn ei feddwl".
Dywedodd ei bod yn amhosib i Lywodraeth Cymru neu gynghorau ddelio â'r sefyllfa.
"Mae cyfrifoldeb mawr ar Lywodraeth Prydain i helpu oherwydd sefyllfa fel hon," meddai.
Ychwanegodd cyn-arweinydd Plaid Cymru, yr Arglwydd Wigley, y gallai cost yr atgyweirio yn dilyn y difrod ymestyn i filiynnau o bunnau ac mai "ychydig iawn o arian wrth-gefn" sydd gan y Cynulliad Cenedlaethol i ddelio gydag argyfwng fel hwn.
Fe alwodd yr Arglwydd Wigley ar y Trysorlys i helpu "fel y bo'r angen".
Ond mae Gweinidog Llywodraeth Leol Lloegr, y Fonesig Stowell, wedi dweud bod hwn "yn fater sydd wedi'i ddatganoli" a'i bod yn gyfrifoldeb ar y Cynulliad i ystyried pa gamau i'w cymryd.
Dywedodd y Fonesig Stowell bod y cynllun Bellwin ar droed yn Lloegr sy'n cynnig cymorth ariannol mewn argyfwng i'r awdurdodau lleol yno, ac y dylai'r Cynulliad ddefnyddio'u cynllun eu hunain.
Yn gynharach, roedd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru, David Jones, wedi dweud wrth aelodau San Steffan y byddai Cymru yn derbyn siâr o unrhyw arian ychwanegol fyddai'n cael ei wario yn Lloegr, ond ni soniodd y Fonesig Stowell am hyn yn ei hymateb hi.
Dywedodd yr Arglwydd Wigley y bydd yn parhau i bwyso ar Lywodraeth Prydain i gael eglurhad o'r sefyllfa.
Yn y cyfamser, mi fydd y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd yn ymddangos o flaen y pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y mis hwn i drafod yr ymateb i'r difrod storm yma yng Nghymru.
Fe fydd hefyd yn gyfle i edrych ar unrhyw gynnydd sydd wedi'i wneud gan Lywodraeth y Cynulliad i'r argymhellion wnaed gan y Pwyllgor yn yr adroddiad ar amddiffyn arfordiroedd Cymru, gyhoeddwyd ym mis Hydref 2012.
Roedd y pwyllgor wedi nodi bod angen gwelliannau sylweddol yn strategaeth amddiffyn arfordiroedd y Llywodraeth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2014