Ceisio gwarchod prom rhag storm arall

  • Cyhoeddwyd
Mae'r gwaith o gryfhau'r amddiffynfeydd eisoes wedi dechrau
Disgrifiad o’r llun,

Mae contractwyr yn gweithio yn erbyn y cloc wrth geisio cryfhau'r amddiffynfeydd

Mae contractwyr yn gweithio yn erbyn y cloc er mwyn ceisio gwarchod promenâd a ddioddefodd yn stormydd dechrau'r flwyddyn cyn y llanw uchel iawn y penwythnos nesaf.

Fe gafodd difrod sylweddol ei achosi i bromenâd Aberystwyth gan y llanw a gwyntoedd cryfion, ac mae amcangyfrif y bydd yn costio dros £1.5 miliwn i'w drwsio.

Ond mae rhagolygon am lanw uchel iawn arall ar Chwefror 1 a 2 wedi arwain at bryder y bydd difrod pellach yn cael ei wneud.

Dywedodd penaethiaid y Cyngor Sir eu bod yn hyderus y bydd yr amddiffynfeydd yn barod mewn pryd.

Yr wythnos hon mynnodd y gweinidog adnoddau naturiol Alun Davies bod cynlluniau cadarn mewn lle i warchod pobl ac eiddo yng Nghymru rhag y llanw ar ddechrau Chwefror.

Yn dilyn llanw tebyg rhwng Ionawr 3-6, roedd Aberystwyth yn un o'r lleoedd a ddioddefodd waethaf gyda channoedd o bobl yn gorfod gadael eu cartrefi.

Mae Cyngor Ceredigion yn bryderus y bydd y bil trwsio o £1.5m yn cynyddu os fydd mwy o ddifrod yn digwydd, ac maen nhw wedi dechrau trafod gyda Llywodraeth Cymru i gael arian tuag at adnewyddu'r ardal glan môr.

'Symud tywod'

Roedd pennaeth cynnal a chadw adeiladau Cyngor Ceredigion, Mel Hopkins, yn obeithiol y bydd y gwaith wedi ei gwblhau erbyn dydd Gwener nesaf, a dywedodd:

"Ar ôl stormydd Ionawr roedd y traeth ar yr un lefel â mur y promenâd felly rydym wedi ail lunio'r traeth drwy symud tywod fel bod mwy o'r mur yn dangos.

"Fe ddylai hynny fod yn fwy o amddiffynfa os fydd tywydd drwg eto.

"Rydym yn gobeithio y bydd y contractwyr wedi llwyddo i drwsio rhannau o'r mur ac ailosod cerrig ar y pafin ar hyd y prom."

Yn y cyfamser mae'r Gymdeithas Gwarchod Morol wedi trefnu digwyddiad i lanhau traeth Cricieth yng Ngwynedd fore Sadwrn am 10:30am.

Dywedodd Lauren Eyles, swyddog gyda'r gymdeithas: "Wedi'r stormydd mae'r môr wedi cyrraedd ymhellach i fyny'r traeth nag arfer, ac ar rai o'r traethau lle mae ein staff eisoes wedi bod yn glanhau rydym wedi gweld llawer mwy o sbwriel nag arfer.

"Mae stormydd fel y rhai a welsom ddechrau'r mis yn golygu bod nifer o eitemau anarferol yn cael eu golchi i'r lan, ac mae angen eu clirio rhag ofn iddyn nhw achosi niwed i fywyd gwyllt neu ymwelwyr dynol hyd yn oed."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol