Ambiwlans: Amseroedd ymateb gwaeth
- Cyhoeddwyd
Mae ffigyrau diweddaraf yn dangos dirywiad pellach yn amseroedd ymateb Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.
Yn ystod mis Rhagfyr fe wnaeth y gwasanaeth ymateb i 57.6% o'r galwadau mwyaf brys (Categori A) o fewn wyth munud.
Targed Llywodraeth Cymru yw ymateb i 65% o alwadau o'r fath o fewn yr amser yna.
Mae hynny'n sylweddol waeth nag ym mis Tachwedd lle cafwyd ymateb o fewn yr amser i 63.2% o alwadau.
Mae Llywodraeth Cymru wedi amddiffyn perfformiad y gwasanaeth, gan ddweud bod yr amseroedd ymateb yn well yn gyfer Rhagfyr 2013 o'i gymharu â'r un mis y flwyddyn flaenorol.
Maen nhw hefyd wedi dweud nad oes llawer o dystiolaeth fod y targed yn un sy'n darparu'r canlyniadau gorau i gleifion beth bynnag.
Mwy o alwadau
Dros fis Rhagfyr fe gafwyd 37,323 o alwadau 999 i'r Gwasanaeth Ambiwlans - 8.6% yn uwch na mis Tachwedd 2013, ond 2.1% yn llai nag yn Rhagfyr 2012.
O'r rhain roedd 14,705 yn alwadau Categori A (lle mae bywyd yn y fantol). Mae'r ffigwr 10.8% yn uwch na Thachwedd 2013 ond 5.5% yn llai na Rhagfyr 2012.
Cafodd 62.6% o alwadau Categori A ymateb o fewn 9 munud, 67.9% o fewn 10 munud, 83.6% o fewn 15 munud a 91.9% o fewn 20 munud.
Ym mis Hydref y llynedd fe wnaeth y gwasanaeth lwyddo i daro targed Llywodraeth Cymru am y tro cyntaf ers 17 mis, ond maen nhw wedi methu'r nod eto ddwywaith ers hynny.
'Cylch dieflig'
Roedd y gwrthbleidiau'n feirniadol iawn, a dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar iechyd, Darren Millar AC:
"Mae hwn yn gwymp pryderus arall mewn cyfnod lle mae oedi ambiwlansys Cymru eisoes o dan y chwyddwydr.
"Dyw'r ffigyrau'n gwneud dim i liniaru pryderon yn dilyn trasiedïau diweddar yng ngogledd a de Cymru.
"Mae'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) o dan Llafur mewn cylch dieflig o argyfwng. Mae blocio gwelyau yn arwain at ambiwlansys yn ciwio, ac mae hynny'n arwain at amseroedd ymateb arafach.
"Mae hynny i gyd yn arwain at lawdriniaethau'n cael eu canslo ac amseroedd aros am driniaeth yn codi.
"Roedd gweinidog iechyd Llafur yn gyflym iawn i ddathlu cyrraedd y nod ddiwedd y llynedd. Nawr mae'n rhaid iddo unwaith eto ymddiheuro i Gymru am y methiant diweddaraf ac egluro beth fydd yn ei wneud i gywiro'r sefyllfa."
'Dirywiad pryderus'
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Elin Jones AC:
"Dyma fethiant arall i'r Gwasanaeth Ambiwlans.
"Roedd y llywodraeth wedi honni bod y gwasanaeth 'ar seiliau cadarn' ym mis Hydref pan lwyddodd y gwasanaeth i daro'r nod am y tro cyntaf ers 18 mis.
"Ers hynny mae'r dirywiad yn bryderus ac yn awgrymu nad yw gwelliannau wedi digwydd er gwaethaf addewidion y bydden nhw.
"Mae'n bryderus hefyd bod dros 340 o ambiwlansys wedi cymryd dros 30 munud i ymateb i alwad."
'Gadael cleifion i lawr'
Dywedodd Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Kirsty Williams AC:
"Mae'n debyg y bydd y gweinidog yn beio pwysau'r gaeaf, ac mae'n wir bod nifer fawr o alwadau brys, ond y ffaith amdani yw bod amseroedd ymateb ambiwlansys yn wael drwy'r flwyddyn.
"Nid yw ymateb i 65% o alwadau Categori A yn nod uchelgeisiol, ac eto mae Llywodraeth Lafur Cymru yn ei fethu'n gyson.
"Rhaid i'r gweinidog ystyried pam, ar ôl un mis o lwyddiant ym mis Hydref, bod amseroedd ymateb unwaith eto ar i lawr.
"Y ffaith drist yw bod Llywodraeth Lafur Cymru yn gadael cleifion ar draws Cymru i lawr boed hynny'n ofal canser annigonol, amseroedd ymateb ambiwlansys gwael neu amseroedd aros ofnadwy mewn adrannau brys.
"Nid yw Llywodraeth Lafur Cymru yn cynnig gwasanaeth iechyd y mae cleifion yng Nghymru yn ei haeddu."
'Newid mewn galw'
Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth: "Rydym yn falch o weld fod perfformiad ambiwlans ar gyfer Rhagfyr 2013 yn uwch nag ar gyfer yr un cyfnod yn 2012.
"Fe wnaeth yr Ymddiriedolaeth Ambiwlans wynebu mwy o bwysau ym mis Rhagfyr gyda'r galw yn anodd i'w ragweld ac yn 'sbeicio' gan achosi copaon ar hap yn nifer y cleifion sâl iawn oedd angen ymateb ambiwlans brys."
"Mae'r perfformiad yn destament i waith caled staff parafeddygol ac ambiwlans yr ymddiriedolaeth, sy'n aml yn cael eu beirniadu am fethu â chyrraedd targed sydd ond yn cael ei gefnogi'n wan iawn gan dystiolaeth glinigol fel mesur o'r canlyniadau gorau ar gyfer cleifion."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2013
- Cyhoeddwyd9 Rhagfyr 2013
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2013