Tywydd: Rhybuddion am ail lanw uchel
- Cyhoeddwyd
Mae rhybuddion i bobl sy'n byw mewn ardaloedd arfordirol i barhau i fod yn ofalus yn ystod y nos, gan fod disgwyl i wyntoedd cryf greu helbul unwaith eto.
Doedd pethau ddim mor ddrwg â'r disgwyl yn ystod y bore ond mae posib y gall lifogydd dal ddigwydd yn ystod ail lanw uchel y dydd.
Mae nifer o rybuddion llifogydd dal mewn grym, gyda'r manylion ar wefan Asiant yr Amgylchedd, dolen allanol.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru'n dweud fod Casnewydd yn un ardal all gael ei effeithio.
Sadwrn gwell na'r disgwyl
Fore Sadwrn roedd Rhodfa'r Môr wedi cau gan Gyngor Ceredigion yn barod ar gyfer llanw uchel arall.
Yn Sir Benfro mae gweithwyr y cyngor wedi mynd i sawl ardal oherwydd trafferthion.
Mae'r A487 yn Niwgwl wedi ailagor. Roedd wedi cau am gyfnod oherwydd bod dŵr wedi dod fewn drwy'r mur amddiffynnol.
Roedd yr A4075 dros Bont Carew wedi ei chau yn ystod y dydd gan fod 18 modfedd o ddŵr llifogydd yno.
Roedd Ffordd Commons ym Mhenfro ar gau ac er bod yr A487 yn dal ar agor drwy ganol Abergwaun, oherwydd bod dŵr yn llifo i mewn i'r maes parcio yno.
I lawr yn Sir Gaerfyrddin fe ddywed cwmni Network Rail bod llifogydd rhwng Llanelli a Pantyffynnon yn golygu nad oedd modd rhedeg trenau rhwng y gorsafoedd yma.
Bydd gwasanaeth bysiau dros dro yn gweithredu yno, ond fe fydd hynny'n ychwanegu oddeutu 20 munud at amser y daith.
Yn Hwlffordd mae'r llwybr cerdded ar hyd yr afon wedi cau, ond nid yw lefel yr afon mor uchel ag yr oedd ar ddechrau Ionawr.
Mae caffi yn Riverside Arcade wedi diodde' oherwydd llifogydd, ond fel arall mae'r sefyllfa o dan reolaeth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2014