Gwahardd ysmygu mewn ceir yng Nghymru?

  • Cyhoeddwyd
ysmygu mewn car
Disgrifiad o’r llun,

Fis Chwefror 2012, fe lansiodd llywodraeth Cymru ymgyrch i geisio rhwystro pobl rhag ysmygu mewn ceir gyda phlant ynddyn nhw

Byddai cynlluniau i wahardd ysmygu pan fo plant yn y car yn Lloegr yn dod i rym yng Nghymru hefyd, wedi i Aelodau Cynulliad gefnogi'r cynllun mewn pleidlais.

Ar hyn o bryd, mae gwleidyddion San Steffan yn trafod newid rhan o'r Mesur Plant a Theuluoedd. Bydd Aelodau Seneddol yn pleidleisio ar y mater ymhen ychydig wythnosau.

Fis Chwefror 2012, fe lansiodd llywodraeth Cymru ymgyrch dair blynedd o hyd i geisio rhwystro pobl rhag ysmygu mewn ceir gyda phlant ynddyn nhw.

Roedd hon yn ymgais i warchod plant rhag sgîl-effeithiau mwg ail-law mewn mannau cyfyng.

Bryd hynny, fe ddywedodd gweinidogion yng Nghymru y bydden nhw'n ystyried gwaharddiad yn dibynnu ar ganlyniadau'r ymgyrch.

Amddiffyn plant

Meddai prif weithredwr elusen ASH Cymru, Elen de Lacy, mae'r bleidlais brynhawn dydd Mercher yn "dangos y cefnogaeth sydd yma yng Nghymru i amddiffyn plant rhag niwed mwg ail-law.

"Y llynedd, fe ddangosodd pôl piniwn ar YouGov bod 82% o bobl yng Nghymru yn cefnogi gwaharddiad.

"'Dy ni'n gobeithio y bydd gwaharddiad ar ysmygu mewn ceir yn dod i rym ledled Prydain ond os nad ydy hynny'n digwydd, mae'r bleidlais heddiw'n dangos fod gan lywodraeth Cymru fandad i fynd amdani a chyflwyno'r ddeddf heb ragor o oedi."