Andrew RT Davies yn ad-drefnu ei gabinet

  • Cyhoeddwyd
Andrew RT Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mr Davies wedi bod yn feirniadol iawn o'r model, ac roedd y pedwar gafodd eu diswyddo wedi methu â phleidleisio mewn cynnig yn ei erbyn yn y Senedd ddydd Mercher

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi rhoi'r sac i bedwar aelod o'i blaid am ei wrthwynebu mewn pleidlais ar ddatganoli treth incwm.

Nick Ramsay, Antoinette Sandbach, Mohammad Ashgar a Janet Finch-Saunders yw'r pedwar sydd wedi colli eu lle yng nghabinet y blaid.

Bydd eu dyletswyddau nhw yn cael eu rhannu rhwng pedwar aelod arall o'r cabinet: Suzy Davies, William Graham, Russell George a Mark Isherwood.

Dyma fydd cyfrifoldebau'r pedwar:

  • Suzy Davies - diwylliant (yn cynnwys cydraddoldeb, treftadaeth, yr iaith Gymraeg a chwaraeon)

  • William Graham - busnes, menter a sgiliau

  • Russell George - amaeth ac adnoddau naturiol

  • Mark Isherwood - cartrefi, cymunedau, llywodraeth leol a gogledd Cymru

Model treth incwm

Mae Mr Davies wedi bod yng nghanol dadl gyhoeddus gydag Ysgrifennydd Cymru, David Jones, am y model o dreth incwm sydd yn y broses o gael ei ddatganoli o San Steffan i Gymru.

Nawr, mae wedi ffraeo gyda phedwar aelod o'i blaid yn y Cynulliad hefyd.

Yr hyn sy'n cael ei gynnig yw model sy'n golygu bod angen i unrhyw newid mewn treth incwm gael ei wneud ar draws bob band arall hefyd.

Mae Mr Davies wedi bod yn feirniadol iawn o'r model, ac roedd y pedwar cafodd eu diswyddo wedi methu â phleidleisio mewn cynnig yn ei erbyn yn y Senedd ddydd Mercher.

'Polisïau arloesol'

Dywedodd Mr Davies, mai ei blaid ef "yn bendant yw'r blaid flaengar yng Nghymru..."

"Mae'n polisïau arloesol, ffres a manwl yn torri tir newydd a chefnogi cymunedau yng Nghymru yw canolbwynt popeth 'dy ni'n wneud.

"Mae'n rhaid i'r trethi isel a'r agenda flaengar barhau, ac mae hyn yn golygu mireinio ymdrech y tîm.

"Rwy'n hyderus fod gan ein cabinet newydd bopeth sydd ei angen i barhau i dorri cwys a chynnig syniadau newydd.

"Dw i eisiau diolch i Nick Ramsay, Antoinette Sandbach, Janet Finch-Saunders, a Mohammad Asghar am eu gwasanaeth ardderchog a dw i'n edrych ymlaen at barhau i ymgyrchu gyda nhw..."

'Achosi rhwyg'

Yn ôl Antoinette Sandbach, sydd wedi colli ei lle yn y cabinet, mae arweinydd y blaid wedi achosi rhwyg o fewn ei haelodau.

"Andrew RT Davies sy'n penderfynu ar bortffolios y Ceidwadwyr. Mae ganddo berffaith hawl i benderfynu pwy sy'n llenwi'r safleoedd.

"Ond mae'n anffodus ei fod e wedi dewis hollti'r blaid.

"Fy nyletswydd cyntaf yw gwasanaethu fy etholwyr, ac fe fyddai'n parhau i'w cynrychioli fel yw ydw i wedi ei wneud ers dechrau fy nghyfnod yng nghynulliad Cymru."