Diswyddo pedwar: Ceidwadwyr yn cynnal cyfarfod brys

  • Cyhoeddwyd
Andrew RT Davies
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew RT Davies, roi'r sac i bedwar aelod o'r fainc flaen am anwybyddu ei gyfarwyddiadau.

Mae BBC Cymru yn deall bod bwrdd rheoli y Ceidwadwyr Cymreig wedi cael cyfarfod brys ar ôl penderfyniad dadleuol i roi'r sac i bedwar aelod o'r fainc flaen gan yr arweinydd Andrew RT Davies.

Y pedwar yw Nick Ramsay, Antoinette Sandbach, Mohammad Ashgar a Janet Finch-Saunders.

Mae'n debyg bod y cyfarfod, gafodd ei gynnal dros y ffôn, wedi cael ei drefnu er mwyn cyfleu "pryder a dicter" aelodau.

Dywedodd ffynhonnell yn y blaid wrth BBC Cymru nad oedd "cefnogaeth o gwbl" gan y bwrdd i Mr Davies a bod rhai aelodau yn bygwth ceisio dadethol eu harweinydd fel ymgeisydd ar gyfer Etholiad y Cynulliad yn 2016.

Dywedodd ffynhonnell arall fod penderfyniad Mr Davies wedi ei "feirniadu'n gyffredinol" a bod yr arweinydd "ar ei ben ei hun yn llwyr".

Mae BBC Cymru hefyd yn deall bod o leiaf un o'r Aelodau Cynulliad sydd wedi cadw'i sedd ar y fainc flaen yn "ystyried ei safle" ac y gallai ymddiswyddo o gabinet yr wrthblaid.

Argyfwng

Ond dywedodd Byron Davies, AC De Orllewin Cymru, na fyddai'n gwneud unrhyw ddatganiad heddiw.

Pe bai aelod o'r cabinet yn ymddiswyddo, byddai'n golygu bod arweinyddiaeth Mr Davies mewn argyfwng.

Byddai'n rhaid i'r blaid ystyried ei harweinyddiaeth cyn etholiadau Senedd Ewrop ym mis Mai, yr Etholiad Cyffredinol yn 2015 ac Etholiad Cynulliad yn 2016.

Dywedodd llefarydd ar ran grŵp y Ceidwadwyr yn y Cynulliad: "Nid ydym yn derbyn y sylwadau hyn sy'n ddienw ...

"Mae hon yn stori wan wedi ei seilio ar ffynonellau dienw.

"Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn unedig er mewn ceisio rhoi llais modern a chryf i Gymru, a chynnig dewis arall i lywodraeth Llafur ddiog sydd wedi rhedeg allan o syniadau."