Arweinydd yn amddiffyn ei benderfyniad
- Cyhoeddwyd
Mae Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew RT Davies, wedi amddiffyn ei benderfyniad i roi'r sac i bedwar aelod o'r fainc flaen am anwybyddu ei gyfarwyddiadau.
Collodd Nick Ramsay, Antoinette Sandbach, Mohammad Asghar a Janet Finch-Saunders eu swyddi o fewn y blaid, am wrthod pleidleisio o blaid gwelliant Plaid Cymru mewn dadl yn y Senedd.
Roedd y gwelliant yn datgan na ddylai pwerau treth incwm i Gymru gael eu cyfyngu gan reol y "cam clo" fel y mae llywodraeth y DU yn mynnu ddylai ddigwydd.
Mae hon yn ddadl sydd wedi bod yn rhygnu 'mlaen ers rhai wythnosau ac mae anghytundeb cyhoeddus wedi bod rhwng Ysgrifennydd Cymru, David Jones, sydd o blaid y rheol 'cam clo', ac Andrew RT Davies, sy'n chwyrn yn ei erbyn.
'Mwy blaengar'
Dywedodd Mr Davies wrth BBC Cymru: "Allwch chi ddim cael cyfrifoldebau cabinet os nad ydych chi'n fodlon derbyn y cyfrifoldebau hynny.
"Felly be rwyf wedi'i wneud ydi creu cabinet cysgodol llai, fydd yn fwy ystwyth, yn fwy blaengar yn y ffordd mae'n cynnig syniadau o'i gymharu â'r hyn rydym wedi bod yn ei wneud dros yr 18 mis i ddwy flynedd ddiwethaf.
"Yn benodol, mi fyddwn ni'n gosod yr hyn fyddwn ni am ei wneud efo'r pwerau newydd, unwaith mae'r Bil Drafft Cymru yn troi yn Fil Cymru yn San Steffan."
Gofynnodd y golygydd gwleidyddol, Nick Servini, iddo os oedd perygl y gallai ei benderfyniad achosi anghydfod o fewn grŵp y Cynulliad.
Dywedodd Mr Davies: "Rwy'n gobeithio'n fawr na fydd e."
Eisiau torri trethi
Ychwanegodd: "Ar ddiwedd y dydd, dyma oedd ewyllys y grŵp, yn amlwg, gan fod safbwynt y grŵp wedi cael ei gymeradwyo mewn cyfarfod ddydd Mawrth.
"Am ba bynnag reswm, fe benderfynodd pedwar aelod beidio â dilyn safbwynt y grŵp - nid fy safbwynt i, safbwynt y grŵp - a'r rhesymu yn dilyn hynny yw bod angen i'r cabinet cysgodol leihau."
Mae Mr Davies yn ystyried y ddadl dros y pwerau treth incwm i fod yn bwysig, gan ei fod yn awyddus i ymgyrchu o blaid torri'r raddfa uchaf o dreth incwm, sydd ar hyn o bryd yn 40%.
Fe wnaeth esbonio ei ddadl dros wneud hyn mewn erthygl ar wefan y Sefydliad Materion Cymreig, dolen allanol.
Ond ni fyddai Llywodraeth Gymreig yn gallu torri'r raddfa 40% heb dorri'r un faint oddi ar y graddfeydd eraill hefyd, os yw'r cyfyngiadau ar y pwerau sy'n cael eu cynnig gan San Steffan yn mynd yn eu blaen.
'Dyna yw gwleidyddiaeth'
Yn y cyfamser mae'r ACau gollodd eu swyddi am beidio â chefnogi safbwynt Mr Davies wedi bod yn siarad am y penderfyniad.
"Dyna yw gwleidyddiaeth," oedd ymateb Mohammad Ashgar, gan ychwanegu ei fod wedi'i siomi gan y penderfyniad.
Ond roedd Antoinette Sandbach yn fwy beirniadol, gan godi pryderon y gallai'r penderfyniad greu hollt o fewn y blaid.
Mae'n debyg bod cyn lefarydd busnes y blaid, Nick Ramsay, ar y trên pan wnaeth Mr Davies y cyhoeddiad, a'i fod wedi clywed am y newyddion gan AC Llafur.
Mewn ymateb i'w ddiswyddiad, dywedodd: "Rwyf wedi fy synnu'n arw gan y penderfyniad, yn enwedig o ystyried fy mod i ffwrdd ar waith y Cynulliad ym Mrwsel.
"Er hynny, rwy'n hapus i weithio ym mha bynnag ffordd mae'r grŵp Ceidwadol yn gofyn i mi ei wneud."
Dywedodd llefarydd addysg y Ceidwadwyr Angela Burns ar Twitter: "Doeddwn i ddim am wneud sylw ond mae hyn yn wallgof. Collodd pedwar o bobl eu swyddi cabinet am dorri chwip tair llinell."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2014
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2014