Methu targedau ambiwlans unwaith eto

  • Cyhoeddwyd
Ambiwlans
Disgrifiad o’r llun,

Cyn Hydref 2013 doedd y targed heb ei gyrraedd ers Mai 2012

Mae targedau amseroedd ymateb ambiwlans wedi cael eu methu unwaith eto.

Y targed yw 65% o ambiwlansys yn cyrraedd achosion brys o fewn wyth munud ond y ffigwr ar gyfer mis Ionawr oedd 57.6%.

Mae'r llywodraeth wedi dweud bod y targed yn cael ei fethu oherwydd pwysau trwm annisgwyl ar y system ofal.

Ond mae'r Ceidwadwyr wedi dweud mai toriadau Llafur i'r Gwasanaeth Iechyd sydd ar fai.

Hydref

Y tro diwethaf i'r targed gael ei gyrraedd oedd ym mis Hydref pan oedd 65.2% o ambiwlansys yn cyrraedd galwadau Adran A - lle mae bygythiad difrifol i fywyd - o fewn wyth munud.

Cyn hynny, doedd y targed heb gael ei gyrraedd ers Mai 2012.

Roedd y ffigwr ar gyfer Ionawr eleni union yr un fath a'r ffigwr ar gyfer mis Rhagfyr.

Ym mis Tachwedd roedd ymateb boddhaol i 63.2% o alwadau.

Ym mis Ionawr roedd 34,709 o alwadau brys, 7% yn llai na'r mis blaenorol a 3.6% yn llai na'r sefyllfa yn Ionawr 2013.

O'r rhain roedd 13,735 yn alwadau Adran A - 6.6% yn llai na'r mis blaenorol a 6.2% yn llai nag Ionawr 2013.

Cafodd 63.5% o'r galwadau hyn ymateb o fewn naw munud, 68.3% o fewn 10 munud a 91.9% o fewn 20 munud.

'Peri pryder'

Dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr, Darren Millar: "Mae'r ffigyrau diweddara' sy'n dangos bod amseroedd ymateb ambiwlans wedi cael eu methu unwaith eto yn peri pryder.

"Llafur sydd â'r targed amseroedd ymateb ambiwlans isaf yn y DU ac mae hwnnw hyd yn oed yn cael ei fethu'n gyson, ddim ond yn cael ei gyrraedd unwaith yn yr 19 mis diwethaf.

"Mae'n achosi pryder, amseroedd ymateb ambiwlans heb gael eu cyrraedd yn ystod gaeaf digon cynnes er ei fod yn wlyb ...

"Yn sicr, mae toriadau digynsail Llafur i gyllideb y Gwasanaeth Iechyd wedi rhoi pwysau anhygoel ar staff y rheng flaen, a bydd israddio unedau gofal brys yn gorfodi ambiwlansys i deithio'n bellach i gludo pobl wirioneddol sâl i'r ysbyty."

'Tywydd gwael iawn'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Fe wnaeth perfformiad ambiwlans ym mis Ionawr barhau ar y lefel gafodd ei chyrraedd ym mis Rhagfyr ac mae'n dda gweld perfformiad ymateb brys yn uwch yn Ionawr 2014.

"Fe wnaeth 68.3% o gleifion dderbyn ymateb brys o fewn 10 munud, 91.9% o fewn 20 munud a 97.6% o fewn 30 munud.

"Fe ddylen gofio fod tywydd gwael iawn wedi bod yng Nghymru yn ddiweddar sydd wedi effeithio ar allu'r gwasanaeth ambiwlans i ymateb i alwadau yn gyflym oherwydd bod diogelwch staff, cleifion a'r cyhoedd yn hollbwysig.

"Ionawr oedd y mis pan wnaeth promenâd Aberystwyth olchi i ffwrdd, er enghraifft. Mae hwn yn adlewyrchiad o'r pwysau annisgwyl ar y system ..."