Ymgynghori ar ddyfodol tair ysgol ar Ynys Môn
- Cyhoeddwyd
Bydd cyfarfodydd yn digwydd mewn tair ysgol yng nghornel gogledd-orllewin Ynys Môn, i drafod eu dyfodol.
Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn bwriadu cau ysgolion Ffrwd Win, Llanfaethlu, Cylch Y Garn, Llanrhuddlad ac Ysgol Llanfachraeth a adnabyddir fel "ysgolion y llannau," ac adeiladu un newydd i'r ardal yn eu lle.
Cytunodd Pwyllgor Gwaith y Cyngor y dylid dechrau ymgynghori'n ffurfiol, wedi iddynt glywed gan Lywodraeth Cymru bod cyllid wedi ei ddiogelu mewn egwyddor, i'r ysgol newydd.
Proses
Eglurodd Arweinydd y Cyngor a'r un sy'n gyfrifol am faterion Addysg, y Cynghorydd Ieuan Williams: "Byddwn yn cynnal cyfarfod ym mhob un o'r tair ysgol fel rhan o'r broses ymgynghori. Bydd hyn yn rhoi cyfle i drafod, ac i rieni, athrawon a llywodraethwyr ddatgan barn ar ein cynigion.
"Mae'r rhaglen moderneiddio ysgolion wedi'i selio ar ein dymuniad i weld Ynys Môn yn datblygu'n un o'r awdurdodau sy'n perfformio orau mewn addysg yng Nghymru gydag ysgolion a darpariaeth addysg o'r radd flaenaf."
Mae dogfen ymgynghori ffurfiol yn cael ei baratoi, ynghŷd ag ail ddogfen fydd yn canolbwyntio ar y safle sydd yn cael ei ffafrio, sef safle presennol Ysgol Llanfachraeth ynghŷd â thir ychwanegol i'r dde o'r safle.
Hir Dymor
Hwn yw'r rhan ddiweddaraf o gynllun hir dymor y Cyngor i ail-ffurfio addysg ar yr Ynys.
Dros y pum mlynedd nesaf, mae Ynys Môn yn bwriadu buddsoddi dros £33m yn ystod rhan gyntaf rhaglen i foderneiddio ysgolion er mwyn cwrdd ag anghenion yr 21ain ganrif.
Mae'n broses sydd, yn barod, wedi gweld pedair o ysgolion cefn gwlad - Aberffraw, Llandrygarn, Llanddeusant a Tŷ Mawr (Capel Coch) yn cau dros y blynyddoedd diwethaf, gydag Ysgol Llanddona yn cael ei chau'r haf yma.
Gormod o lefydd gweigion yw un o'r rhesymau tu ôl cau'r ysgolion.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Medi 2013
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2013
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2014