Gosod amddiffynfeydd llifogydd dros dro yn Llanelwy
- Cyhoeddwyd
Bydd gwaith yn dechrau yn ddiweddarach i osod amddiffynfeydd llifogydd dros dro yn Llanelwy.
Fe ddioddefodd y ddinas effaith llifogydd yn 2012 ar ôl i'r afon Elwy lifo i mewn i 400 o dai. Bu farw un bensiynwraig yn y digwyddiad.
Bydd wal deng metr o uchder yn cael ei chodi a sylfaeni concrid newydd yn cael eu gosod ar hyd 80 metr o lannau'r afon Elwy ddydd Llun.
Bydd hyn yn galluogi swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru i osod amddiffynfeydd rhag llifogydd dros dro pan fydd yr afon yn codi i lefel benodol.
Mae gwaith yn cychwyn hefyd i ddarganfod y ffordd fwyaf effeithiol o ostwng y risg o lifogydd i bobl yn yr ardal petai llifogydd yn taro'r ddinas eto.
Tai yng ngogledd y ddinas, ym Mharc Roe a Stryd y Felin, ddioddefodd y llifogydd gwaethaf yn 2012.
Cafodd 500 o bobl eu cynghori i symud o'u cartrefi yn y ddinas i'r ganolfan hamdden ger Ysgol Glan Clwyd bryd hynny.
Cafodd chwe opsiwn ar gyfer adeiladu amddiffynfeydd llifogydd newydd yn Llanelwy eu hystyried gan Gyfoeth Naturiol Cymru.
Digwyddodd y llifogydd yn 2012 oherwydd glaw trwm, parhaol ar dir gwlyb.
Daeth adroddiad i'r casgliad nad oedd amddiffynfeydd yn yr ardal yn ddigonol, a bod risg o 1 mewn 30 o lifogydd o'r fath, yn hytrach nag 1 mewn 100 fel oedd y cyngor yn ei gredu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mawrth 2014
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2013
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2012