Adroddiad: 'angen sicrwydd am adrannau gofal brys'

  • Cyhoeddwyd
A doctor (generic)
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r adroddiad yn nodi bod na brinder meddygon teulu yn y wlad

Mae gofal brys ysbytai yng Nghymru yn dioddef am fod 'na ansicrwydd am ddyfodol rhai o'r adrannau achosion brys, meddai un o bwyllgorau'r Cynulliad.

Dywedodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus fod hyn yn ei gwneud hi'n anodd cadw staff a denu gweithwyr newydd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod yn "croesawu'r adroddiad" ac y byddan nhw'n ystyried y casgliadau ac yn ymateb maes o law.

Mi benderfynodd y pwyllgor gynnal ymchwiliad wedi adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru. Roedd yr adroddiad ym mis Medi 2013 yn dweud bod gwasanaethau brys yn gwaethygu gyda gormod o bobl yn gorfod aros dros 12 awr yn yr uned gofal brys.

Tra bod yr adroddiad yma yn dweud bod na welliannau wedi bod ers hynny mae'n ddogfen yn nodi bod angen atebion mwy "radical" er mwyn delio gyda'r heriau sy'n wynebu'r Gwasanaeth Iechyd.

Prinder meddygon yn y wlad

Mae 'na 18 o argymhellion yn yr adroddiad. Un argymhelliad ydy gwella'r ffordd mae amseroedd ambiwlans yn cael eu cofnodi. Ar hyn o bryd does 'na ddim esboniad am sut mae'r wybodaeth yn cael ei gasglu.

Hefyd mae'r Aelodau Cynulliad yn dweud bod angen gwell ffyrdd i gymharu profiad cleifion o'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru efo'r Gwasanaeth Iechyd mewn rhannau eraill ym Mhrydain.

Rhai o'r argymhellion eraill yw:

* Cynyddu nifer y bobl sydd yn cael brechiadau, gan gynnwys brechlyn rhag y ffliw, ymhlith staff GIG;

* Mwy o waith i hyrwyddo'r opsiynau sydd ar gael i bobl heblaw am fynd i weld y meddyg teulu;

* Rhoi terfyn ar yr ansicrwydd am adrannau achosion brys;

* Llunio strategaeth i wneud yn siwr bod na ddigon o feddygon teulu yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.

Angen "atebion radical"

Dywedodd y cadeirydd Darren Millar: "Mae'r pwysau sy'n wynebu'r broses o gyflenwi gwasanaethau gofal heb ei drefnu yng Nghymru yn gymhleth.

"Er bod y rhai sy'n gweithio o fewn GIG Cymru wedi gwneud eu gorau i sbarduno gwelliannau, ni welwyd eto'r newid ymagwedd llwyr o ran perfformiad sydd ei angen ar bobl Cymru.

"Casgliad y pwyllgor yw bod angen atebion radical er mwyn mynd i'r afael â'r heriau y mae ein gwasanaethau iechyd yn eu hwynebu.

"Rydym hefyd am weld terfyn i'r ansicrwydd ynghylch yr hyn a ddarperir o ran adrannau achosion iechyd brys - yn enwedig o ystyried yr her a wynebir gan ein hysbytai o ran recriwtio."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol