Cyhoeddi pa artistiaid sydd ar y gorwel

  • Cyhoeddwyd
Casi
Disgrifiad o’r llun,

Mae Casi yn un o'r 12 o artistiaid sydd wedi'u dewis i fod yn rhan o 'Gorwelion'

Mae artistiaid ar draws Cymru wedi cael eu dewis i fod yn rhan o brosiect 'Gorwelion' BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru.

Nod 'Gorwelion' yw datblygu cerddoriaeth gyfoes annibynnol newydd yng Nghymru, a chefnogi a hyrwyddo talent gerddorol i gynulleidfaoedd ehangach.

Roedd dros 300 o artistiaid wedi cystadlu am le ar y cynllun a bydd yn rhoi hwb amhrisiadwy i'w gyrfaoedd.

Cyhoeddwyd enwau'r 12 artist heddiw yn Focus Wales 2014, Wrecsam.

Disgrifiad o’r llun,

Swnami

Dywedodd Huw Stephens, cyflwynydd C2, BBC Radio Cymru a Radio 1: "Mae'r cyd-weithio'n mynd i fod o fudd i'r deuddeg artist amrywiol, byddan nhw i gyd yn cael profiadau a chyfleoedd gwych dros y flwyddyn nesa.

"Mae BBC Cymru wastad wedi cefnogi artistiaid sy'n creu cerddoriaeth wreiddiol, ac mae Gorwelion yn gam arall cyffrous yn y stori yna."

Byddant yn cael cynnig perfformio ar lwyfan mewn digwyddiadau ledled Cymru a thrwy wasanaethau radio cenedlaethol BBC Cymru - BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales, gan barhau penwythnos nesaf yn Twrw Talacharn ar Fai 3 ac yng Ngŵyl Gomedi Machynlleth ar Fai 4.

Mae Gorwelion yn bartneriaeth newydd dwy flynedd rhwng BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru i ddatblygu talent gerddorol newydd ac i roi llwyfan iddynt i gyrraedd cynulleidfaoedd.

Cafodd yr artistiaid eu dewis gan banel o gynrychiolwyr o'r bartneriaeth ac o'r sector cerddoriaeth ehangach, gan gynnwys Bethan Elfyn, Adam Walton, Huw Stephens, Tudur Owen, Geth a Ger, bandiau Gorwelion, The Joy Formidable a Kids in Glass Houses.

Mae'r gyflwynwraig radio, Bethan Elfyn, yn dweud ei bod yn "edrych mlaen yn fawr i glywed yr ymateb i'r rhestr cyntaf Gorwelion - mae'n gynllun ffresh, arloesol, a lot o bethau unigryw i gynnig i cerddoriaeth Cymru - mae'r 12 cyntaf yma yn ddewr iawn yn camu ymlaen yn y flwyddyn gyntaf".

Ychwanegodd: "'Dw i'n gobeithio byddwn yn gallu bod yn rhan o siwrne arbennig yr artistiaid, a'i gweld yn blodeuo mewn gwahanol ffyrdd yn ystod y flwyddyn.

Disgrifiad o’r llun,

Climbing Trees

"Mae'r deuddeg yn dangos y gwledd o gwahanol steils o gerddoriaeth sydd yng Nghymru ar hyn o bryd."

Bydd Gorwelion yn dod â cherddoriaeth i lawer o wyliau eraill yn ystod haf 2014 a bydd yn cynnig mwy o gyfleodd cyffrous i gerddorion Cymru yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Y 12 artist a ddewiswyd (yn nhrefn yr wyddor):

Baby Queens: Pum merch yn aelod o'r grŵp, cyfuniad o gerddoriaeth roc, hip hop, soul a reggae. Cara Elise (Gitâr /Llais), Estelle Ios (Gitâr), Monique Bux (Llais), Ruth Vibes (Llais/Gitâr), Vanity (Llais), (o Fae Caerdydd).

Candelas: Pum aelod i'r band, cerddoriaeth roc gyda dylanwad y felan. Osian Williams (Gitâr/Vocals), Ifan Jones (Guitar), Tomos Edwards (Bass Guitar), Gruffydd Edwards (Gitâr), Lewis Williams (Drums), (o'r Bala/Llanuwchllyn).

Casi: Cantores cerddoriaeth electro-pop. Dechreuodd gyfansoddi cerddoriaeth bop gydag adleisiau gwerin cryf ac ers hynny mae wedi magu blas ar gerddoriaeth electroneg, (o Eryri).

Chris Jones: Canwr, chwaraewr guitar a bouzouki, baledwr gwerin cyfoes, (o Gaernarfon).

Climbing Trees: Ensemble aml-offerynnol. Matthew Frederick (Piano/Gitâr/Llais), Colenso Jones (Gitâr/Bas/Llais), Martin Webb (Gitâr/Bas/Llais), James Bennetts (Drymiau/Llais), (o Bontypridd)

Gabrielle Murphy: Cantores, yn perfformio'i chaneuon ei hun gan gwmpasu nifer o genres (o Ferthyr);

Houdini Dax: Band indie tri aelod; Jack Butler, David Newington ac Owen Richard (o Gaerdydd);

Kizzy Crawford: Chantores a chyfansoddwraig ddwyieithog, sy'n cyfuno soul a jazz (o Ferthyr);

Seazoo: Band indie pop gyda phum aelod (o Wrecsam);

Plu: Cerddoriaeth werin Gymraeg gyda dylanwadau canu gwlad/Americana. Elan Mererid Rhys (Llais/Autoharp), Marged Eiry Rhys (Llais/Accordion/Piano/Melodica), Gwilym Bowen Rhys (Llais/Gitar/Bouzouki/Mandolin) (o Bethel/Caernarfon);

Swnami: Band pop pum aelod. Ifan Davies (Llais/Gitar), Ifan Ywain (Gitar), Gerwyn Murray (Bass), Lewis Williams (Drymiau), Gruff Jones (Synth/Rhaglennu) (o Ddolgellau).

The People The Poet: Band roc pum aelod. Leon Stanford (Llais), Tyla Campbell (Gitâr), Lewis Roswell (Drymiau), Pete Mills (Gitâr fas), Greta Isaac.