Cynllun i hybu cerddorion y dyfodol yn cychwyn

  • Cyhoeddwyd
Georgia RuthFfynhonnell y llun, Catrin Davies
Disgrifiad o’r llun,

Y gobaith ydy y bydd yr artistiaid yn llwyddo yng Nghymru a thu hwnt fel y mae Georgia Ruth wedi gwneud

Mae cynllun ar gyfer hybu talent newydd cerddorol wedi cychwyn yng Nghymru. Gobaith cynllun Gorwelion ydy darganfod 12 o artistiaid a chynnig cyngor a chyfleoedd iddyn nhw wneud eu marc.

Bydd BBC Cymru Wales a Chyngor Celfyddydau Cymru yn cefnogi'r cerddorion fydd yn canu yn Gymraeg neu Saesneg. Yn ystod y misoedd nesaf bydd y rhai sydd yn cael eu dewis yn perfformio mewn digwyddiadau ar draws y wlad ac i'w clywed ar Radio Cymru a Radio Wales.

Mae'r trefnwyr yn gofyn i'r rhai sydd 'efo diddordeb i anfon recordiad o'u caneuon gwreiddiol at y BBC gyda llun a bywgraffiad byr. Y dyddiad cau yw 31 Mawrth 2014.

Cynllun ar gyfer bandiau neu gerddorion heb gytundeb gydag unrhyw label yw hwn ac arbenigwyr o'r diwydiant cerddoriaeth fydd yn dewis y 12 llwyddiannus.

"Cyrraedd y lefel nesaf"

Yn ol Golygydd Rhaglenni BBC Radio Cymru, Betsan Powys mae'n gyfle gwych i rywun.

"Mae cerddoriaeth newydd wrth galon gweithgaredd BBC Radio Cymru, gyda chyfle i glywed cerddoriaeth Gymraeg newydd ar nifer o'n rhaglenni, ond mae Gorwelion yn gyfle newydd i gefnogi grŵp bach o artistiaid a'u helpu i gyrraedd y lefel nesaf.

"Ry'n ni'n ddiweddar wedi gweld yr effaith bositif mae digwyddiadau fel gŵyl ryngwladol Womex wedi cael ar artistiaid Cymraeg fel Georgia Ruth a Gwyneth Glyn. Mae hwn yn gyfle i ni weld mwy o artistiaid o Gymru, gyda'n cefnogaeth ni, yn llwyddo yn rhyngwladol."

Bydd y 12 artist yn cael sesiwn recordio yn BBC Maida Vale sef stiwdio recordio yn y BBC yn Llundain ers 1946. Ymysg y pethau eraill mae cyrsiau hyfforddi, offer hyrwyddo, sesiynau chwarae ar y radio a chyswllt uniongyrchol gyda chynhyrchydd yn y BBC sydd yn ymwneud â chynllun Gorwelion.

Datblygu

Dywedodd Lisa Matthews, Rheolwr Portffolio Cyngor Celfyddydau Cymru: "Rydym ni'n falch iawn o gydweithio gyda BBC Cymru ar Gorwelion i gyflawni dyhead i ddatblygu'r gerddoriaeth newydd orau yng Nghymru.

"Yn ogystal â mentora'r 12 artist, ar hyd y flwyddyn, ni'n gobeithio creu mwy o gyfleoedd i'r gynulleidfa glywed y talent cerddorol anhygoel rydym ni'n creu yma yng Nghymru."

Bydd y rhai sydd wedi eu dewis yn cael eu cyhoeddi ar Radio Cymru a Radio Wales yn ystod Gŵyl Focus Wales yn Wrecsam ar 25 Ebrill.