Annog rhieni i gynorthwyo'u plant
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gweinidog Addysg Huw Lewis wedi lansio ymgyrch sy'n ceisio dangos sut y gall rhieni wneud gwahaniaeth i addysg eu plant.
Bydd yr ymgyrch - Mae Addysg yn Dechrau yn y Cartref - yn annog rhieni i gymryd rhan yn addysg eu plant trwy ddangos iddyn nhw bod pethau bach yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr.
Rhai esiamplau sy'n cael eu cynnig yn yr ymgyrch yw :-
Deffro'r plant yn gynnar i fynd i'r ysgol;
Sicrhau bod plant yn cael noson dda o gwsg;
Gwneud amser i ddarllen gyda phlant;
Cynorthwyo gyda gwaith rhifedd;
Mynd i nosweithiau rheini yn yr ysgol;
Holi'r plant am yr ysgol.
Mae'r gweinidog yn lansio'r ymgyrch yn swyddogol yn Ysgol Gynradd Herbert Thompson yn Nhrelái, Caerdydd, ddydd Mawrth.
'Rôl ganolog'
Dywedodd Mr Lewis: "Rwyf am weld safonau a pherfformiad yn ysgolion Cymru yn gwella yn gyffredinol.
"Mae'n glir fod gan rieni rôl ganolog er mwyn gwneud i hyn ddigwydd. Ni allwn wneud hyn heb eu cefnogaeth, ac fel tad rwy'n gwybod mai'r pethau bychain yr ydym yn gwneud fel rhieni sy'n gallu gwneud gwahaniaeth mawr i ddiwrnod ysgol ein plant.
"Pan ydym yn edrych ar brofion rhyngwladol, mae peth tystiolaeth i ddangos mai'r gwledydd lle mae rhieni'n dod yn rhan o addysg eu plant yw'r rhai mwyaf llwyddiannus.
"Os ydym am godi safle yn rhyngwladol, mae'n rhaid i hynny ddigwydd yng Nghymru hefyd.
"Dyw e ddim yn gymhleth, yn wir mae e mor syml â sicrhau eu bod yn cael digon o gwsg a rhoi cefnogaeth ac anogaeth yn y cartref.
"Mae helpu gyda darllen, rhifau a gwaith cartref yn bwysig iawn, ond fe allai dangos diddordeb a dangos fod gennych ddiddordeb yn yr hyn sy'n digwydd yn yr ysgol yn gallu bod o gymorth yn y tymor hir."
Gwaethaf yn y DU
Fe ddaw'r ymgyrch wythnos o hyd, wedi i ddogfen ddaeth i sylw BBC Cymru ddangos bod Llywodraeth Cymru wedi cael rhybudd am safonau addysg yng Nghymru chwe blynedd yn ôl.
Ym mis Rhagfyr y llynedd datgelodd canlyniadau rhyngwladol PISA fod Cymru wedi disgyn yn is yn y tabl rhyngwladol o ran perfformiad disgyblion nag yn y profion blaenorol.
Ym maes mathemateg, er enghraifft, roedd Cymru yn safle 43 allan o 68 o wledydd o'i gymharu â 40 yn 2010.
Cymru hefyd oedd y gwaethaf yn y DU mewn profion darllen a gwyddoniaeth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2014
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2014
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2014
- Cyhoeddwyd18 Chwefror 2014
- Cyhoeddwyd28 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2013