Amseroedd aros unedau brys yn gwella yn ôl ffigyrau
- Cyhoeddwyd
Mae amseroedd aros mewn unedau damweiniau ac achosion brys wedi lleihau ers y llynedd, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.
Mae'r ystadegau ar gyfer mis Mawrth yn dangos bod 87.7% o gleifion wedi cael eu trin o fewn y targed o bedair awr o'i gymharu â 84.3% yn y flwyddyn flaenorol.
Ond ni chafodd targed pedair awr ar gyfer derbyn, trosglwyddo, neu ryddhau 95% o gleifion y llywodraeth ei gyrraedd unwaith yn y 15 mis hyd at fis Mawrth.
Dywedodd y llywodraeth bod y rhan fwyaf o gleifion yn cael eu hasesu o fewn dwy awr o gyrraedd unedau gofal brys.
Mesurau deallus
Mae unedau brys ysbytai Cymru yn trin rhwng 70,000 a 90,000 o bobl yn fisol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed pedair awr ar gyfer derbyn, trosglwyddo, neu ryddhau 95% o'r cleifion hyn. Mae amseroedd aros hyd at 12 awr yn cael eu monitro hefyd.
Ym mis Mawrth, roedd 1,005 o gleifion wedi gwario 12 awr neu fwy rhwng cyrraedd a chael eu derbyn, trosglwyddo neu ryddhau.
Roedd hwn i lawr o 2,250 ym mis Ebrill 2013 pan gafodd y targed ei gyflwyno.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn gweithio yn agos gyda'r Gwasanaeth Iechyd i ddatblygu mesurau deallus sy'n disgrifio yn well y gofal sydd yn cael ei ddarparu i gleifion mewn unedau gofal brys i gyd-fynd a'r targed pedair awr."
Ddydd Mercher, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford gynllun newydd i fonitro amseroedd aros cleifion canser.
Ym mis Mawrth, cyhoeddodd newidiadau mawr i'r ffordd mae perfformiad y gwasanaeth ambiwlans ac unedau brys yn cael eu monitro a'u mesur.
Mae'r gwrthbleidiau wedi cwestiynu ei resymau dros gyflwyno'r newidiadau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mai 2014
- Cyhoeddwyd30 Ebrill 2014
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2014