Gwasanaeth ambiwlans yn methu targed galwadau brys eto
- Cyhoeddwyd
Mae ambiwlansys Cymru wedi methu eu targed o gyrraedd 65% o alwadau sydd â pherygl i fywyd o fewn wyth munud.
55% o alwadau brys gafodd eu hateb o fewn wyth munud ym mis Mawrth, o'i gymharu â 52.8% ym mis Chwefror, a 53.3% ym mis Mawrth 2013.
Dywedodd y Ceidwadwyr y dylai gweinidogion Llafur wneud tro pedol ar doriadau i'r Gwasanaeth Iechyd, tra bod y Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud bod y sefyllfa yn "warth cenedlaethol".
Mae gweinidogion wedi dweud eu bod yn disgwyl gwelliant y mis yma oherwydd newidiadau i'r ffordd y mae gwasanaethau ambiwlans yn cael eu trefnu.
'Angen tro pedol'
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar Iechyd, Darren Millar: "Mae hanes Llafur o wneud y toriadau mwyaf erioed i gyllideb y GIG wedi golygu colli gwelyau a thorri yn ôl ar wasanaethau, gan arwain at unedau gofal brys llawn, felly nid yw ambiwlansys yn gallu trosglwyddo cleifion yn sydyn a mynd yn ôl allan i ddelio gyda galwadau brys eraill.
"Yn lle canolbwyntio adnoddau ar wella amseroedd aros ambiwlansys, ar ôl bron i ddwy flynedd o fethu targedau, ymateb llafur yw trafod cael gwared ar dargedau ac ail-frandio.
"Mae angen i weinidogion wneud tro pedol ar doriadau a dechrau buddsoddi yn y Gwasanaeth Ambiwlans i wella gofal i gleifion a chyflymu'r ymatebion [i alwadau]."
'Gwarth cenedlaethol'
Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams ei fod yn "warth cenedlaethol" bod llai na hanner yr ambiwlansys wedi cyrraedd y targed o 65% yn Rhondda Cynon Taf, Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy a Chaerdydd.
"Gall bywydau gael eu colli oherwydd amseroedd ymateb araf ac mae pobl yn cael eu gadael i lawr," meddai.
Ychwanegodd ei bod yn poeni am y "straen y mae staff ambiwlans yn wynebu" a'i bod hi'n siŵr ei bod hi'n "lladd ysbryd" i weithio "yn eithriadol o galed" a gweld y fath ffigyrau yn cael eu cyhoeddi.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar Iechyd, Elin Jones: "Nid yw'r ffigyrau diweddaraf yn dangos unrhyw arwydd o welliant yn y gwasanaeth ambiwlans, wrth i'r llywodraeth fethu unwaith eto a chyrraedd y targed.
"Mae bron i flwyddyn wedi mynd heibio ers yr adolygiad i'r gwasanaeth gael ei gyhoeddi ac rydyn ni'n dal i aros am welliant."
Ychwanegodd: "Yn hytrach na chanolbwyntio ar sicrhau gwelliannau, mae'r llywodraeth wedi bod yn awyddus i awgrymu nad yw'r ystadegau yma yn bwysig.
"Mae Plaid Cymru yn canolbwyntio ar sicrhau datrysiadau i adeiladu gwasanaeth iechyd mwy gwydn i Gymru."
Mewn datganiad, dywedodd llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n siomedig i nodi nad oedd y targed amser ymateb cenedlaethol wedi ei gyrraedd.
"Daeth trefniadau newydd ar gyfer comisiynu gwasanaethau ambiwlansys brys i rym ar Ebrill 1, 2014 ac rydyn ni'n disgwyl i fyrddau iechyd hybu perfformiad gwell dros y misoedd nesaf."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2014
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2014
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2014