Plaid yn tynnu nôl o drafodaethau cyllideb
- Cyhoeddwyd
Mae Plaid Cymru wedi tynnu nôl o drafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ynglŷn â'r gyllideb am eu bod yn anhapus gyda phenderfyniad y llywodraeth i godi ffordd newydd i leihau tagfeydd ar yr M4.
Yn ôl Leanne Wood mae'r Gweinidog Trafnidiaeth wedi gwneud y penderfyniad mewn ffordd anemocrataidd.
Fe wnaeth Edwina Hart y cyhoeddiad ddydd Mercher, wythnos cyn i Bwyllgor Amgylchedd y Cynulliad gyhoeddi eu hadroddiad nhw ar y mater.
Mae'r adroddiad hwnnw gafodd ei roi i'r BBC yn dilyn y cyhoeddiad, yn codi pryderon am y broses ymgynghori.
Mae Llafur angen cefnogaeth pleidiau eraill er mwyn medru pasio'r gyllideb flynyddol am nad oes ganddi fwyafrif yn y Cynulliad.
'Clymu dwylo'
Dywedodd Leanne Wood: "Mae hyn yn rhywbeth mae Plaid Cymru yn teimlo mai rhaid iddi wneud.
"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymddwyn mewn ffordd hollol ddi-fater tuag at y sefydliad democrataidd pan wnaethon nhw'n penderfyniad yma heb graffu digonol a heb gynllun busnes."
Mi fydd adeiladu'r ffordd newydd yn costio £1 biliwn ac mae Ms Wood yn dweud bod yna atebion eraill llai costus.
"Bydd y penderfyniad yn clymu dwylo Llywodraeth Cymru am o leiaf degawd.
"Am y rheswm hynny allith Plaid Cymru ddim cynnal trafodaethau cyllideb gyda llywodraeth sydd yn gwneud penderfyniadau gwario difeddwl ac yn osgoi craffu'r ffordd yma.
"Felly rydyn ni yn tynnu nôl o'r trafodaethau."
Llywodraeth anghyfrifol
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi dweud y byddan nhw yn ei chael hi'n anodd cefnogi cyllideb fydd yn blaenoriaethu ffordd yr M4.
Yn ôl Kirsty Williams dyma fyddan nhw'n ddweud wrth Llywodraeth Cymru mewn unrhyw drafodaethau yn y dyfodol.
"Yn hytrach na cherdded i ffwrdd, rydyn ni yn gweld y trafodaethau am y gyllideb fel cyfle i adeiladu economi gref yng Nghymru a sicrhau fod yna well gwerth am arian ar gyfer y trethdalwyr."
Mae hefyd yn dweud bod opsiynau eraill ar gael, sy'n llawer llai drud a'r effaith ar yr amgylchedd yn llai niweidiol.
"Fyddai llywodraeth gyfrifol ddim yn defnyddio ei holl bwerau benthyg ar un ffordd, gan adael dim arian ar gyfer prosiectau trafnidiaeth eraill."
Arian i ffyrdd eraill
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod hi'n "siomedig" nad oedd Plaid Cymru yn gweld budd y ffordd newydd.
Mae'r llefarydd yn dweud bod yr M4 yn bwysig i'r economi ac nad oedden nhw wedi medru bwrw ymlaen efo'r cynllun yn y gorffennol am nad oedden nhw'n medru fforddio'r gost.
Ond maent yn dweud fod y pwerau benthyg newydd yn golygu bod modd dechrau'r gwaith.
"Mae'n anghywir i ddweud y byddwn ni yn defnyddio ein holl bwerau benthyg cynnar i gyflawni'r cynllun yma.
"Rydyn ni wedi bod yn glir y byddwn ni yn defnyddio'r pwerau newydd, yn ogystal â phres arloesol a buddsoddiad cyfalaf uniongyrchol a fydd o fudd i Gymru gyfan."
Dywed y Llywodraeth hefyd ei bod yn buddsoddi mewn sawl ffordd megis yr A55 a'r ffordd osgoi rhwng Caernarfon a Bontnewydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2014
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2014