Nato: Negeseuon gan blant Cymru

  • Cyhoeddwyd
Logo Nato
Disgrifiad o’r llun,

Bydd cynhadledd Nato yn cael ei gynnal yng Nghasnewydd ym mis Medi

Fe fydd arweinwyr byd yn derbyn negeseuon personol gan blant Cymru wrth iddyn nhw gyrraedd Uwchgynhadledd Nato yng Nghasnewydd.

Pwrpas y negeseuon yw rhoi cyfle i'r plant rannu eu gobeithion ar gyfer y dyfodol.

Mae Prif Weinidog Cymru wedi gofyn i bum dosbarth o blant 9 a 10 mlwydd oed ledled Cymru, ac un Adran yr Urdd, nodi pa newidiadau y hoffen nhw weld erbyn iddyn nhw dyfu'n oedolion.

Yna, fe fydd pob un o'r 28 o arweinwyr Nato, gan gynnwys yr Arlywydd Barack Obama a'r Arlywydd Francois Hollande, yn cael un o'r negeseuon hyn ar gerdyn post dwyieithog yn ystod yr Uwchgynhadledd.

100 o blant

Mae dros 100 o blant yn rhan o'r prosiect a bydd y cardiau post yn cynnwys lluniau o'u hardaloedd.

Mae'r plant yn ddisgyblion yn Ysgol Gynradd Pillgwenlly yng Nghasnewydd, Ysgol Gynradd Mount Pleasant yng Nghasnewydd, Ysgol Gymraeg Aberystwyth, Ysgol yr Hendre yng Nghaernarfon, Ysgol Pencae yng Nghaerdydd ac Adran Urdd y Treuddyn.

Fe fydd yr holl gardiau post yn cael eu harddangos yn yr Uwchgynhadledd ac ambell i neges unigol yn cael eu dewis i roi i'r 28 o arweinwyr Nato.

Fe ddywedodd Carwyn Jones:

"Bydd mwy o arweinwyr y byd yng Nghymru mis Medi nag a welwyd erioed o'r blaen, ac fel Llywodraeth roedden ni am i blant sy'n cael eu magu yn y wlad sy'n cynnal y digwyddiad deimlo'n rhan ohono.

"Bydd arweinwyr Nato yn clywed am obeithion y plant sy'n byw mewn trefi a phentrefi ledled Cymru pan fyddan nhw'n dod i'r Uwchgynhadledd a byddwn wedi rhoi cyfle bythgofiadwy i grŵp o blant anfon negeseuon at rai o'r arweinwyr mwyaf blaenllaw yn y byd."

'Mor falch'

Fe ychwanegodd Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr Urdd:

"Adran Treuddyn oedd yr Adran gyntaf o'r Urdd i gael ei sefydlu yn 1922 ac rydym mor falch bod yr Adran yn dal i gynnig cyfleoedd gwych fel hyn i aelodau'r Urdd.

"Rwy'n falch iawn y bydd syniadau disglair plant o Gymru'n ysbrydoli arweinwyr byd-eang."