Uwch-gynhadledd Nato: 38 ysgol i gau
- Cyhoeddwyd
Mae'r rhan fwyaf o ysgolion Casnewydd yn bwriadu cau yn ystod uwch-gynhadledd Nato yn y ddinas fis Medi.
Hyd yn hyn, mae 38 wedi cyhoeddi y byddan nhw ynghau ar 4 a 5 Medi, tra bo 10 ysgol arall yn dal i bendroni.
Gwesty'r Celtic Manor yw cartre'r uwch-gynhadledd, fydd yn dod â 60 o arweinwyr rhyngwladol ynghyd.
Fe fydd 9,000 o swyddogion yr heddlu'n gweithio, gan gostio oddeutu £50m.
Yn ogystal â phryder am brotestiadau sydd wedi eu cynllunio, mae 'na boeni am draffig.
Mae nifer o grwpiau yn paratoi i gynnal rhwng saith a 10 niwrnod o brotestio - roedd 'na gryn anhrefn pan ddigwyddodd ymgyrchu o'r fath yn Strasbwrg yn 2009.
'Hyderus iawn'
Ond mae Chris Armitt, dirprwy brif gwnstabl Heddlu Glannau Mersi - sydd yng ngofal diogelwch - yn dweud fod cynlluniau yn eu lle.
"Dw i'n hyderus iawn ein bod ni'n gwneud popeth sy'n bosib i wneud yn siwr ein bod ni'n cynllunio'n effeithiol," meddai.
"'Dy ni'n gwneud llwyth o ymarferion a phrofion ynghylch popeth allai ddigwydd. Dyw hynny ddim yn golygu na welwn ni anhrefn yma ac acw.
"Os welwn ni anhrefn o'r fath, fe wnawn ni ddelio ag o yn gyflym, a dw i'n hyderus na welwn ni anhrefn tebyg i beth ddigwyddodd yn Ewrop o'r blaen - yn Strasbwrg, er enghraifft."
Hwn fydd y tro cyntaf i uwch-gynhadledd Nato gael ei chynnal yn y DU ers 1990.
Mae disgwyl i Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama ddod i'r digwyddiad - dyma fydd ei ymweliad cyntaf â Chymru.
Oherwydd pryderon am draffig a diogelwch, mae gyrwyr yn cael eu cynghori i osgoi'r M4 yn ardal twneli Brynglas yn ystod yr uwch-gynhadledd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2014
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2014
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2013