Bargyfreithwyr yn streicio dros gymorth cyfreithiol
- Cyhoeddwyd
Mae gweithwyr proffesiynol ym maes y gyfraith yn cynnal streic mewn protest yn erbyn y toriadau sy'n cael eu hystyried i gymorth cyfreithiol.
Mae bargyfreithwyr yn dweud y bydd y toriadau pellach yn torri safonau'r system gyfiawnder i bwynt lle na fydd yn dderbyniol.
Mae protestiadau wedi eu cynnal ledled Prydain, gan gynnwys llysoedd Caerdydd a'r Wyddgrug.
Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn dadlau bod y newidiadau'n angenrheidiol er mwyn sicrhau fod cymorth cyfreithiol yn "gynaliadwy ac ar gael ar gyfer y bobl sydd ei angen fwyaf".
Newidiadau
Cafodd ymgynghoriad olaf ar y toriadau arfaethedig i gymorth cyfreithiol ei gynnal flwyddyn ddiwethaf.
Mae darparu'r cymorth yn costio rhyw £2 biliwn i drethdalwyr pob blwyddyn.
Mae hanner yr arian yna'n cael ei wario ar amddiffyn troseddol a'r gweddill ar achosion sifil. Mae'r rhain yn ymwneud a iechyd meddwl, ceiswyr lloches a chyfraith teulu; sef achosion o drais yn y cartref, priodasau gorfodol a chipio plant.
Bwriad llywodraeth y DU yw torri'r ffioedd sy'n cael eu talu mewn achosion cymhleth a chostus o 30%, a lleihau gwariant ar waith arall mewn Llysoedd y Goron o 18%.
Mae'r cynlluniau wedi cael eu beirniadu gan y Treasury Counsel - grwp o uwch-fargyfreithwyr sy'n cael eu penodi gan y cwnsler cyffredinol - yn ogystal â Chyngor y Bar, sy'n cynrychioli bargyfreithwyr yn Lloegr a Chymru, a Chymdeithas y Cyfreithwyr, sy'n cynrychioli cyfreithwyr.
Streic gyntaf o'i math
Yn siarad ar ran y bargyfreithwyr fydd yn streicio yng Nghymru, dywedodd Andrew Taylor: "Hwn yw'r tro cyntaf i ferched a dynion sy'n gweithio yn y maes yma i fynd ar streic.
"Beth mae'r llywodraeth yn gynnig yn y bôn yw torri cyfradd tal ac i dorri cymorth cyfreithiol mewn ffordd fydd yn golygu y bydd llawer o bobl yn methu a chael cyfiawnder.
"Yn ogystal bydd safon y gwasanaeth cyfiawnder hwnnw yn gostwng i bwynt lle bydd yn gwbl annioddefol, yn ein barn ni...
"Mae siambrau bargyfreithwyr yn cau, mae pobl ifanc o fewn y proffesiwn yn gadael a bydd llawer o bobl eraill yn dweud eu bod nhw ddim yn gallu fforddio gwneud y gwaith mwyach."
'System ddrud'
Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn dadlau bod y toriadau'n angenrheidiol er mwyn iddyn nhw allu parhau i gynnig cymorth cyfreithiol am ddim i bobl sydd ei angen.
Dywedodd llefarydd ar eu rhan: "Mae ein system yn costio £2 biliwn y flwyddyn - u'n o'r rhai drytaf o'i fath yn y byd - a bydd yn parhau i fod yn hael hyd yn oed ar ôl y toriadau.
"Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod mwy na 1,200 o fargyfreithwyr sy'n gweithio'n llawn amser ar achosion troseddol sy'n cael eu talu gan y trethdalwyr wedi derbyn £100,000 yr un mewn incwm ffioedd y flwyddyn ddiwethaf, gyda chwech yn derbyn dros £500,000 yr un.
"Rydym yn cytuno'n llwyr y dylai cyfreithwyr gael eu talu'n deg am eu gwaith ac rydym yn credu bod ein cynigion yn gwneud hynny.
"Rydym hefyd yn cytuno bod cymorth cyfreithiol yn rhan annatod o'n system gyfiawnder a dyna pan rydym yn ceisio darganfod ffyrdd i sicrhau ei fod yn parhau'n gynaliadwy ac ar gael i'r rheiny sydd angen cymorth fwyaf."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2013
- Cyhoeddwyd15 Mai 2013
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2013