Nifer o honiadau AS am ofal iechyd ei gwr wedi eu gwrthod

  • Cyhoeddwyd
Ann Clwyd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ann Clwyd wedi beirniadu staff Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro am y gofal gafodd ei diweddar ŵr

Nid yw nifer o gwynion gafodd eu gwneud gan Aelod Seneddol Llafur am y gofal gafodd ei gŵr mewn ysbyty cyn iddo farw, wedi cael eu cefnogi gan ymchwiliad annibynnol.

Ond mae sawl un o'r honiadau gafodd eu gwneud gan AS Cwm Cynon Ann Clwyd wedi cael eu cefnogi.

Mae cwynion Ms Clwyd wedi dechrau ffrae wleidyddol ers iddi feirniadu staff Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro yn dilyn marwolaeth ei gŵr, Owen Roberts yn 2012.

Tan hyn, nid yw canlyniadau ymchwiliad y bwrdd iechyd gafodd ei gwblhau flwyddyn yn ôl wedi eu cyhoeddi, ond mae crynodeb nawr wedi ei ryddhau yn dilyn cais dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Mae'n dangos bod naw o'i honiadau wedi eu cefnogi, ac un yn rhannol.

Ond ni chafodd 17 eu cefnogi. Daeth y panel i'r canfyddiad nad oedd digon o dystiolaeth i gefnogi 11 arall, a dim digon o wybodaeth am ddau arall.

Mae Ms Clwyd wedi ymateb drwy ddweud na ddylai crynodeb yr adroddiad fod wedi cael ei gyhoeddi. Dywedodd hefyd wrth BBC Cymru na ddylai wedi digwydd tra bod ymchwiliad arall yn parhau.

Yn ogystal, mae prif weithredwr elusen ddiogelwch wedi disgrifio'r penderfyniad i gyhoeddi'r adroddiad heb ganiatâd Ms Clwyd fel un "gwarthus".

Honiadau difrifol

Ymysg yr honiadau gafodd eu cefnogi oedd:

  • "Roedd o (Mr Roberts) yn oer iawn, oherwydd bod gan glaf yn y gwely nesaf ffan oedd yn chwythu aer oer drosto a dim ond cynfasau cotwm tenau oedd gan Owen ar ei wely."

  • "Roedd ei wefusau yn sych iawn a doeddwn i methu â deall pam nad oedd neb yn eu gwlychu."

  • "Ar y pryd (pan fu farw Mr Roberts) daeth nyrs i mewn gyda throli yn gweiddi: 'Unrhyw un am frecwast?' Dim ond pedwar gwely oedd ar y ward, ac fe ddangosodd difaterwch yn agos at ddiffyg tosturi."

Ond mae'r honiadau na chafodd eu derbyn gan y panel yn cynnwys honiad gan Ms Clwyd bod ei gŵr wedi marw fel "iâr mewn cawell", a'i fod wedi ei "wasgu yn erbyn bariau gwely" a bod bron iawn "diffyg gofal didrugaredd".

Ymysg yr honiadau eraill na chafodd eu derbyn oedd bod "bron i bob cais wnes i wedi ei anwybyddu neu ei wrthod" a "gwelais nyrs yn y coridor a gofynnais pam nad oedd fy ngŵr yn yr adran gofal dwys. Dywedodd hi, 'Mae llawer yn waeth na fo'".

Ffrae wleidyddol

Mae Ms Clwyd wedi bod yng nghanol ffrae wleidyddol gyda Llywodraeth Lafur Cymru ynglŷn â'r gofal sy'n cael ei ddarparu gan y gwasanaeth iechyd.

Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones bod yr AS wedi cyflwyno sylwadau nad oedd modd eu priodoli am y GIG nad oedd modd ymchwilio iddynt.

Ond mae Ms Clwyd yn mynnu ei bod wedi rhoi crynodeb lawn o'r cwynion gafodd eu codi i Mr Jones.

Ms Clwyd arweiniodd ymchwiliad gan lywodraeth y DU ar sut y mae ysbytai yn Lloegr yn delio â chwynion, a dywedodd ei bod wedi derbyn cannoedd o lythyrau gan gleifion yng Nghymru yn son am eu profiadau gwael.

Mae hi hefyd wedi galw ar gadeirydd a phrif weithredwr Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro i ymddiswyddo gan honni eu bod wedi rhyddhau manylion personol am yr ymchwiliad i farwolaeth ei gŵr.

Nawr, mae Ms Clwyd wedi dweud wrth BBC Cymru ei bod hi wedi gwrthod sawl cais i ryddhau crynodeb yr adroddiad. Dywedodd bod ymchwiliad annibynnol arall wedi dechrau a'i fod yn niweidiol i'w gyhoeddi.

Mae hi'n dadlau nad oedd digon o dystiolaeth i gefnogi ei honiadau, a dywedodd bod ganddi fwy o dystiolaeth.

"'Dw i'n meddwl pan fydd yr ymchwiliad arall yn cael ei gwblhau y bydd fy marn yn cael ei gyfiawnhau," meddai.

'Dyletswydd statudol'

Mae'r bwrdd iechyd eisoes wedi cadarnhau bod gwybodaeth am achos Mr Roberts wedi ei ryddhau mewn ymateb i gais dan y Ddeddf Rhyddid gwybodaeth, ond maen nhw'n gwadu torri rheolau cyfrinachedd.

"Cafodd yr ymchwiliad i bryderon Ms Clwyd eu goruchwylio gan banel arbenigol annibynnol a'i gwblhau yn Ebrill 2013. Ers hynny mae'r bwrdd iechyd wedi derbyn nifer o geisiadau dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth i ryddhau'r adroddiad.

"Fel rhan o'r broses arferol gofynwyd am gniatâd Ms Clwyd i ryddhau'r adroddiad llawn ond cafodd hynny ei wrthod.

"Yn gynharach eleni fe wnaeth y bwrdd iechyd dderbyn cais, eto dan y Ddeddf Rhyddid gwybodaeth, i ryddhau crynodeb o'r adroddiad. Fel rhan o'i ddyletswydd statudol cafodd y cais ei ystyried a cafodd mwy o gyngor cyfreithiol ei gymryd, gan ddod i'r penderfyniad i ryddhau crynodeb o'r datganiadau sydd eisoes yn gyhoeddus a chanlyniad yr ymchwiliad.

"Yn dilyn hyn fe ofynnodd Ms Clwyd i'r grynodeb beidio â chael ei rannu ymhellach, ac fe wnaeth y bwrdd iechyd hynny wrth aros am gyfarfod gyda'i thîm cyfreithiol.

"Ers hynny mae rhagor o geisiadau wedi eu gwneud dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth ac mae'r bwrdd iechyd wedi ystyried y penderfyniad ymhellach ac wedi derbyn cyngor cyfreithiol. Ar sail y cyngor yna mae'r bwrdd iechyd yn credu y byddai hi'n torri ei ddyletswydd statudol i beidio â rhyddhau crynodeb o'r adroddiad.

"Rydyn ni'n parhau i weithio gyda thîm cyfreithiol Ms Clwyd fel rhan o broses gwyno 'Putting Things Right', ac rydyn ni'n awyddus i gytuno ar arbenigwyr allanol ar gyfer adolygiad annibynnol i ymchwilio yn gadarn ac yn annibynnol i'r ymchwiliad gwreiddiol.

"Rydyn ni'n gobeithio y bydd hynny yn rhoi'r atebion a'r sicrwydd y mae Ms Clwyd yn chwilio amdano ynglŷn â gofal ei gŵr. Byddwn yn croesawu os caiff ganfyddiadau'r adolygiad hwnnw eu cyhoeddi."

Penderfyniad 'gwarthus'

Mae elusen diogelwch cleifion, yr AvMA, wedi dweud bod penderfyniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i gyhoeddi adroddiad am gwynion yr AS, Ann Clwyd, heb ei chaniatâd yn "warthus".

Mae'r elusen yn poeni y gallai osod cynsail i fyrddau GIG gyhoeddi adroddiadau i ymchwiliadau cwynion eraill heb ganiatâd yr achwynydd. Yn ôl yr elusen, mae'r adroddiadau yma fel arfer yn gyfrinachol.

Dywedodd prif weithredwr AvMA, Peter Walsh, fod "hon yn gamfarn warthus".

Dywedodd llefarydd ar ran llywodraeth Cymru bod hwn yn fater i Ms Clwyd a'r bwrdd iechyd.