Ysgol Uwchradd Gymraeg newydd i Gasnewydd
- Cyhoeddwyd
Gall ysgol uwchradd yng Nghasnewydd gael ei rhannu er mwyn gwneud lle ar gyfer ysgol uwchradd Gymraeg newydd, dan gynlluniau fydd yn cael eu trafod gan Gyngor Casnewydd.
Byddai disgyblion Ysgol Uwchradd Dyffryn yn symud o fod yn defnyddio'r tri bloc personol ar y safle, i ddefnyddio dau yn unig, gan greu lle ar gyfer ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg i 900 o ddisgyblion yn yr adeilad gwag.
Mae'r cynlluniau hefyd yn cynnwys ehangu rhannau o adeiladau'r ysgol.
Pe bai'r cynlluniau'n cael eu cymeradwyo, gallai'r ysgol fod yn barod erbyn mis Medi 2016, gan helpu i fynd i'r afael â diffyg yn nifer y llefydd ar gyfer disgyblion mewn ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg.
Byddai cyfanswm o 2,100 o ddisgyblion yn derbyn eu haddysg ar y safle unwaith bydd y ddwy ysgol yn llawn.
Byddai dalgylch yr ysgol cyfrwng Cymraeg yn cynnwys Casnewydd, Sir Fynwy a rhannau deheuol o'r ardal arferai fod yn rhan o Gyngor Gwent.
Dim ond 100 o ddisgyblion fyddai'n mynychu'r ysgol yn ei blwyddyn academaidd gyntaf.
Pe bai'r cynllun yn cael ei gymeradwyo, bydd cynghorau Casnewydd a Sir Fynwy, ynghyd â Llywodraeth Cymru, yn ariannu'r prosiect fydd yn costio £17 miliwn.
Ar hyn o bryd does dim ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg yng Nghasnewydd, a'r ysgolion agosaf o'r fath yw Ysgol Gyfun Gwynllyw yn Nhorfaen ac Ysgol Gyfun Cwm Rhymni yng Nghaerffili.
Bydd cynghorwyr Casnewydd yn trafod y cynlluniau ddydd Llun.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2014
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2014
- Cyhoeddwyd26 Medi 2014
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2014