£40 miliwn ychwanegol i'r GIG
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd y GIG yng Nghymru yn derbyn £40 miliwn ychwanegol er mwyn helpu i ymdopi gyda phwysau'r gaeaf.
Bydd yr arian yn dod o gronfa wrth gefn y llywodraeth, a hynny mewn ymateb i gynnydd mewn galw am wasanaethau dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd.
Mae disgwyl i'r ffigyrau diweddaraf ynglŷn ag amseroedd aros mewn adrannau brys gael eu cyhoeddi ddydd Gwener.
Mae'r gwrthbleidiau wedi beirniadu perfformiad y GIG yng Nghymru, ond mae gweinidogion yn dweud bod y gwasanaeth dan bwysau ar draws y DU.
'Gaeaf yn gyfnod prysur'
Wythnos yma dywedodd nyrs yn ysbyty mwyaf Cymru bod y pwysau sy'n wynebu gweithwyr mewn adrannau brys yn waeth na'r pwysau a wynebodd hi wrth weithio fel nyrs ar y rheng flaen yn y Rhyfel yn Irac.
Ym mis Rhagfyr, rhybuddiodd prif weithredwr y GIG yng Nghymru y gallai'r pwysau cynyddol yn ystod y gaeaf achosi i lawdriniaethau gael eu canslo.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y £40 miliwn ychwanegol yn gyfystyr â'r £700 miliwn ychwanegol gafodd ei gyhoeddi gan Lywodraeth y DU ar gyfer y GIG yn Lloegr llynedd.
I roi cyd-destun i'r arian ychwanegol, mae cyllideb y GIG yn £6 biliwn y flwyddyn.
Daw'r £40 miliwn ar ben yr £200 miliwn ychwanegol sydd wedi'i roi i'w wario yn y flwyddyn ariannol bresennol.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford: "Bydd y buddsoddiad ychwanegol hwn yn helpu'r GIG i ymdrin â'r pwysau sylweddol sy'n ei wynebu - pwysau sy'n bodoli ar draws y DU o ganlyniad i gynnydd mewn galw gan gleifion.
"Mae'r gaeaf yn gyfnod prysur iawn i'n gwasanaethau iechyd, gofal, a gwasanaethau cymdeithasol, ac mae ein gwasanaethau gofal brys, yn enwedig, yn gweld galw cynyddol sylweddol yn y galw am eu gwasanaethau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2014
- Cyhoeddwyd30 Medi 2014