Gostyngiad mewn elw i borthladd Aberdaugleddau

  • Cyhoeddwyd
Terfynell LNG ger porthladd AberdaugleddauFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Mae tanceri anferth yn cludo LNG i ddwy derfynell ym mhorthladd Aberdaugleddau

Mae porthladd Aberdaugleddau wedi gweld gostyngiad mawr yn eu helw am fod llai o alw am nwy hylifol naturiol (LNG).

Yn ôl awdurdod y porthladd fe wnaethon nhw £4.2 miliwn o elw cyn treth y llynedd.

Ond maw hwn yn bron hanner yr elw 0 £8.1 miliwn wnaethon nhw yn 2011.

Mae'r awdurdod yn dweud bod llai o longau yn cyrraedd y porthladd, oherwydd bod llai o alw am nwy hylifol naturiol (LNG) ym Mhrydain.

'Arallgyfeirio'

Dywed yr awdurdod fod y gost o fewnforio nwy wedi cynyddu'n sylweddol a bod mwy o lo yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu ynni.

Ychwanegodd yr awdurdod fod nifer o ffactorau eraill hefyd wedi effeithio ar elw'r porthladd y llynedd gan gynnwys y tswnami yn Japan yn 2011 a diddordeb cynyddol yr Unol Daleithiau mewn nwy siâl sy'n cael ei echdynnu drwy broses ffracio.

Roedd y gost gynyddol o ddelio â diffygion ariannol oherwydd pensiynau hefydd wedi effeithio ar elw porthladd mwyaf ond dau yn y DU, yn ôl yr awdurdod.

Dywedodd cadeirydd y porthladd, David Benson: "Fe fydd y porthladd wastad yn agored i newidiadau yn y farchnad ynni a dyna pam rydym yn dal ati i arallgyfeirio gan wneud y mwyaf o'n cyfleoedd i fuddsoddi mewn gweithredoedd rydym yn gallu rheoli'n well.

"Fe wnaethon ni ganolbwyntio'n bennaf ar fuddsoddi yn ein safleoedd yn Nociau Penfro ac Aberdaugleddau a mynd i'r afael â chyfleoedd i fod yn rhan o'r sectorau gwynt, dŵr a biomas yn yr economi ynni adnewyddadwy."

Mae gan Aberdaugleddau ddwy derfynell - South Hook a Dragon LNG - ac mae tanceri anferth wedi bod yn cludo LNG yno o'r dwyrain canol er 2009.

Mae'r ddwy derfynell yn gallu cyflenwi tua 30% o anghenion nwy'r DU.

Ym mis Mawrth cafodd llong oedd yn cludo 266,000 o fetrau ciwbig o nwy hylifol naturiol ei dargyfeirio i Aberdaugleddau wedi i gyflenwadau nwy Prydain ddod o dan bwysau o ganlyniad i dywydd oer anarferol.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol