Cyngerdd Castell Aberteifi yn corddi
- Cyhoeddwyd
Mae 'na ffrae chwerw'n corddi yn nhref Aberteifi ar ôl i grŵp gwerin o Loegr gael eu dewis fel prif artistiaid yng nghyngerdd agoriadol castell y dre'.
Mae cyngerdd wedi ei drefnu ar 25 Gorffennaf, gyda grŵp Bellowhead yn arwain y digwyddiad.
Bydd Castell Aberteifi yn ailagor ar ôl cynllun gwerth £12m i ailddatblygu'r safle sydd wedi bod yn adfeilio ers degawdau.
Fe fydd seremoni yn cael ei chynnal ar 15 Ebrill i nodi diwedd y gwaith. Fe fydd llety moethus, canolfan ddiwylliannol a bwyty yn rhan o'r datblygiad.
Fe fydd y grŵp Cymraeg, 9Bach, hefyd yn perfformio ar yr un noson.
'Haerllugrwydd'
Yn ôl Ymddiriedolaeth Cadwgan, sy'n gofalu am y castell, mae'r mwyafrif helaeth o'r 1,000 o docynnau wedi eu gwerthu yn barod.
Yn ôl grwp ymgyrchu newydd, sydd wedi ei sefydlu yn sgil y penderfyniad, mae'r gwahoddiad i Bellowhead yn faux pas mawr.
Dywedodd Hefin Wyn, llefarydd ar ran Cyfeillion Rhys ap Gruffudd, y dylai Ymddiriedolaeth Cadwgan "anrhydeddu eich ymrwymiad i'r gymuned yn lleol, ac i'r genedl yn ehangach, trwy drefnu cyfres o achlysuron a fydd yn tynnu sylw at y cyfoeth o dalent sy'n bodoli'n lleol ac yn genedlaethol."
Mae'n dweud fod pobl y dref wedi "rhyfeddu at haerllugrwydd ymddiriedolaeth Cadwgan."
Mae rhai o bobl yr ardal wedi dweud wrth BBC Cymru eu bod nhw'n ystyried trefnu digwyddiad amgen ar yr un noson gydag artistiaid lleol.
Mae un o gynghorwyr Sir Aberteifi, John Adams Lewis, wedi dweud wrth BBC Cymru bod yna ymateb chwerw wedi bod i'r penderfyniad:
"D'wi erioed wedi cael gymaint o gwynion â dydd Sadwrn diwethaf ynglŷn â'r ffaith bod yr Ymddiriedolwyr wedi gwahodd band o Loegr...mae pobl yn lleol yn teimlo y dylse fod rhywun lleol yn y gyngerdd agoriadol."
'Rhaglen ardderchog'
Wrth ymateb i'r feirniadaeth, dywedodd Sue Lewis o Ymddiriedolaeth Cadwgan bod yna "raglen ardderchog o ddigwyddiadau" wedi eu trefnu yng Nghastell Aberteifi dros yr haf, a fyddai'n rhoi llwyfan i "berfformiadau cenedlaethol" a "thalent lleol."
Fe gadarnhaodd hi hefyd y bydd Seremoni Cyhoeddi Gŵyl Fawr Aberteifi - Eisteddfod leol y dref - yn cael ei chynnal ar y safle.
Castell Aberteifi oedd un o gadarnleoedd yr Arglwydd Rhys - Tywysog y Deheubarth - a drefnodd yr Eisteddfod gyntaf i gael ei chofnodi ym 1176 ar safle'r castell.
Mae rhan helaeth o'r castell gwreiddiol bellach wedi diflannu, er bod tŵr cerrig o'r 12fed ganrif wedi goroesi.
Gorsedd
Mae BBC Cymru wedi siarad gyda Chofiadur Gorsedd y Beirdd, Penri Roberts, sydd wedi cadarnhau bod yna drafodaethau wedi bod gyda swyddogion y castell ynglŷn â chynnal gorsedd arbennig yng Nghastell Aberteifi adeg yr agoriad.
Serch hynny, yn ôl Mr Roberts, mae'r Orsedd wedi cael gwybod na fydd y cyfle yn codi i gynnal gorymdaith a Gorsedd ar safle'r Castell wedi'r cyfan.
"Roedd hi'n fwriad gyda i ni fynd yna i gynnal Gorsedd... ar wahân i Fryn y Briallu yn Llundain, d'wi ddim yn credu bod hyn wedi digwydd yn fy nghof i y tu allan i ŵyl y cyhoeddi a'r Eisteddfod... roedd hi'n fwriad i wneud y digwyddiad yn un o bwys... falle bod yna siom yn rhywle yn yr ymateb... ond siom yn bennaf ar ran pobl Aberteifi... d'wi ddim yn gwybod beth sydd wedi digwydd yn Aberteifi... na pwy sydd wedi gwneud y penderfyniad."
Dywedodd llefarydd ran Ymddiriedolaeth Cadwgan "nad oedd modd gwireddu'r cyfle oherwydd yr ansicrwydd ynglŷn â dyddiad agor y catell.
"Fe fyddai'n wych i gynnal Gorsedd y tu fewn i furiau'r Castell, ac mi fydde' ni yn croesawu trafodaethau pellach," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2015
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2014
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2012