Ymgyrch Jasmine: Beirniadu Gwasanaeth Erlyn y Goron
- Cyhoeddwyd
Mae awdur adroddiad beirniadol oedd yn edrych ar esgeulustod mewn cartrefi gofal yn ne Cymru wedi beirniadu Gwasanaeth Erlyn y Goron am wrthod ail-ystyried dwyn achos cyfreithiol.
Dywedodd Dr Margaret Flynn, oedd yn gyfrifol am adolygu'r gofal mewn cartrefi gofal gafodd eu hymchwilio fel rhan o Ymgyrch Jasmine, fod ymateb Gwasanaeth Erlyn y Goron i'w hadroddiad wedi bod yn "anurddasol, ansensitif a chul".
Operation Jasmine oedd enw ymchwiliad Heddlu Gwent i'r esgeulustod honedig mewn chwech o gartrefi gofal ar draws de Cymru rhwng 2005 a 2009. Dyma'r ymchwiliad mwyaf erioed i gam-drin honedig mewn cartrefi gofal, ac roedd dros 100 o deuluoedd wedi cwyno.
Roedd wedi costio £11.6 miliwn.
Yn 2013 daeth achos cyfreithiol i ben yn erbyn Dr Prana Das, un o berchnogion rhai o'r cartrefi, ar ôl lladrad yn ei gartref, wnaeth ei adael gyda niwed i'w ymennydd.
Dim adolygiad
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi dweud na fydd yn adolygu'r achos, a nawr mae teuluoedd yr henoed oedd yn destun yr ymchwiliad am gyfarfod gyda chyfarwyddwr Gwasanaeth Erlyn y Goron am esboniad.
Dywedodd Dr Flynn wrth BBC 5 Live ddydd Mercher: "Rwy'n credu ei fod yn anurddasol ac ansensitif o gofio fod teuluoedd mewn galar ac yn cwyno. Y canlyniad ydi bod nifer o gwestiynau sydd heb eu hateb."
"O gofio am y camau ara deg iawn oedd yn golygu fod materion yn ymwneud ag Ymgyrch Jasmine allan o lygaid y cyhoedd am dros saith mlynedd, mae eu hymateb sydyn iawn yn anurddasol."
Dywedodd Dr Flynn na allai fod yn hyderus na fyddai ail-adrodd o'r driniaeth wael o gleifion oedranus "os yw Gwasanaeth Erlyn y Goron yn cymryd agwedd mor gul i'r hyn sydd yn achos sylweddol iawn iawn o esgeulustod."
Dywedodd Lorraine Brannan o'r grŵp Cyfiawnder i Jasmine wrth y BBC fod teuluoedd nawr am gyfarfod y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus, Alison Saunders, er mwyn darganfod pam nad oedd Gwasanaeth Erlyn y Goron am ail-ystyried yr achos.
"Roedden ni'n credu y bydde nhw o leiaf yn ail-ystyried y peth. Roedd rhoi ateb bron yn syth yn siomedig. Mae pawb wedi cael sioc am lefel yr esgeulustod ond does neb yn dal i fod yn atebol."
Teulu dioddefwr
Yn y cyfamser mae un teulu oedd yn ymddangos yn adroddiad Dr Flynn wedi siarad yn gyhoeddus am y tro cyntaf am eu profiad. Doedd achos Daniel Rowlands ddim yn rhan o Ymchwiliad Jasmine, ond fe gafodd ei drafod yn yr adroddiad ar ôl i Dr Flynn apelio ar bobl i rannu eu profiadau. Roedd Mr Rowlands wedi derbyn gofal yng nghartref gofal Southern Cross.
Fe wnaeth merch Mr Rowlands, Julia Matthews, ennill setliad ariannol ar ôl dwyn achos cyfreithiol am esgeulustod clinigol o achos ei driniaeth yn y cartref, sydd nawr dan reolaeth cwmni newydd. Fe ddywedodd wrth BBC 5 Live sut yr oedd ei thad, a fu farw yn 2009, yn arfer sgrechian o achos briwiau ar ei draed, ac roedd modd gweld ei esgyrn drwy'r briwiau.
"Roedd fy nhad yn mynd drwy uffern ar y pryd. Roedd fy nwylo yn las pan roedd yn arfer gafael ynddyn nhw mor dynn pan roedd yn derbyn triniaeth ar ei draed. Roedd fy nhad yn wydn ond roedd marwolaeth yn rhyddhad oedd i'w groesawu", meddai.
"Does neb yn mynd i sefyll a dweud 'Wyddoch chi beth, fi yw'r un oedd wedi achosi'r broblem. Fi sydd ar fai'. Fe aeth fy nhad drwy boendod corfforol a meddyliol.
Daeth yr heddlu i'r casgliad nad oedd achos Mr Rowlands yn cyrraedd y trothwy troseddu cyfreithiol er mwyn dwyn achos ond mae Julia Matthews am weld hyn yn cael ei adolygu.
Mewn datganiad fe ddywedodd Gwasanaeth Erlyn y Goron fod arbenigwyr cyfreithiol yn delio gyda'r holl achosion o'r cychwyn, ac ni fyddai hyn wedi newid canlyniad yr achos hwn gan fod adolygiad o benderfyniadau Ymgyrch Jamsine yn 2013 wedi dod i'r casgliad eu bod yn gywir ac yn adlewyrchu'r dystiolaeth oedd ar gael a'r defnydd cywir o'r gyfraith.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf 2015