Operation Jasmine: Cyhoeddi adolygiad

  • Cyhoeddwyd
Dr Prana Das
Disgrifiad o’r llun,

Daeth achos yn erbyn Dr Prana Das i ben wedi iddo gael anafiadau i'w ymennydd yn dilyn lladrad yn ei gartref

Mae disgwyl i adroddiad annibynnol ynglŷn â honiadau o esgeulustod mewn cartrefi gofal yn y de ddwyrain gael ei gyhoeddi yn ddiweddarach.

Cafodd yr adolygiad ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru ar ôl i ymchwiliad yr heddluoedd ddod i ben heb i unrhyw un gael eu herlyn.

Operation Jasmine oedd enw ymchwiliad Heddlu Gwent i'r esgeulustod honedig mewn chwech o gartrefi gofal ar draws de Cymru rhwng 2005 a 2009.

Dyma'r ymchwiliad mwyaf erioed i gam-drin honedig mewn cartrefi gofal, ac roedd dros 100 o deuluoedd wedi cwyno.

Roedd wedi costio £11.6 miliwn.

Yn 2013 daeth yr achos i ben yn erbyn Dr Prana Das, un o berchnogion rhai o'r cartrefi, ar ôl lladrad yn ei gartref, wnaeth ei adael gyda niwed i'w ymennydd.

Ar ôl i nifer o deuluoedd ddweud nad oedden nhw'n teimlo bod 'na gyfiawnder wedi bod, fe wnaeth Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones ofyn i'r Dr Margaret Flynn edrych ar ba wersi oedd i'w dysgu.

Mae disgwyl i'w hadroddiad hi gael ei gyhoeddi fore dydd Mawrth.