Shakespeare a Chymru
- Cyhoeddwyd

Ar 23 Ebrill 1616 bu farw'r dramodydd a'r bardd William Shakespeare yn Stratford-upon-Avon.
Mae Shakespeare yn adnabyddus dros y byd fel un o ffigyrau diwylliannol mwyaf dylanwadol yr iaith Saesneg, ond oeddech chi'n gwybod fod ganddo nifer o gysylltiadau Cymreig?
Roedd Alys Griffin, nain William Shakespeare ar ochr ei fam, yn Gymraes ac roedd rhai ysgolheigion ar ddechrau'r ugeinfed ganrif yn credu bod y gwreiddiau Celtaidd yma yn ei gysylltu gyda'r traddodiad barddol chwaraeodd ran mor flaenllaw yn ei waith. Ond erbyn hyn mae arbenigwyr yn tueddu i daflu dŵr oer ar awgrymiadau o'r fath.
Yn ei ddyddiau cynnar roedd Shakespeare yn dysgu Lladin yn yr ysgol yn Stratford-upon-Avon. Ei athro oedd y Cymro Thomas Jenkins. Mae'r ysgolhaig Jonathan Bate yn credu mai i Jenkins mae'r diolch fod gan y dramodydd iaith mor goeth ac ystwyth.
Cafodd ei ddrama Cymbeline ei lleoli yn bennaf yn ddwfn yn mynyddoedd Cymru. Mae Imogen, arwres y ddrama, yn mynd ar goll wrth geisio ffoi i Aberdaugleddau, neu blessed Milford yng ngeiriau'r dramodydd.

Mae dehongliad y Cymro Richard Burton o Hamlet yn 1964 yn cael ei gydnabod fel un o'r perfformiadau gorau erioed o waith Shakespeare
Mae nifer o gymeriadau Cymreig yn ymddangos yn ei ddramâu eraill.
Yn Henry IV mae Owain Glyndŵr yn cael ei bortreadu fel dieithryn gwyllt gyda phersonoliaeth hudol ac ysbrydol. Mae Syr Hugh Evans yn berson ac ysgolfeistr yn Merry Wives of Windsor tra bod Capten Fluellen yn filwr ym myddin y brenin yn Henry V.
Shakespeare yn Gymraeg
Dros y blynyddoedd mae 'na sawl ymgais wedi bod i gyfieithu gwaith Shakespeare i'r Gymraeg.
Mae Gwyn Thomas a Gwyneth Lewis wedi cyfieithu rhai o'i ddramâu i'r Gymraeg, a chafodd un o'r dramâu mwya' poblogaidd, efallai - Romeo and Juliet - ei throsi gan T. James Jones yn 1983. Y cyfieithiad hwnnw oedd un o gynyrchiadau cynta' Theatr Genedlaethol Cymru ugain mlynedd yn ddiweddarach.

Poster Theatr Genedlaethol Cymru o'u cynhyrchiad o gyfieithiad Gwyn Thomas o Macbeth
Un sydd wedi perfformio nifer fawr o ddramâu Shakespeare yw'r actor Daniel Evans, fu'n aelod o'r Royal Shakespeare Company ar un adeg ac sydd yn Gyfarwyddwr Artistig y Chichester Festival Theatre. Mae e'n gresynu nad yw dramâu Shakespeare wedi cael eu llwyfannu yn Gymraeg yn fwy rheolaidd:
"Trueni i ddweud y gwir, gan fod cyfieithiadau fel un T. James Jones yn hyfryd ac yn gallu rhagori weithiau ar y gwreiddiol. Chi'n gweld clyfrwch y geiriau, fel mae e'n gallu cyfleu ystyr yn gynnil.
"Roedd T. James Jones wedi gallu cyfleu ystyr drwy ddefnyddio geiriau anarferol, ond hefyd geiriau sy'n ein synnu ni fel darllenwyr neu gynulleidfa. Mae'r syndod parhaol yna'n rhoi boddhad.

Mae'r awdur T. James Jones ymhlith y llenorion sydd wedi cyfieithu rhai o ddramâu Shakespeare i'r Gymraeg
"Mae'r gwaith yn mynd i fod ychydig yn wahanol, wrth gwrs, gan fod hi'n iaith wahanol. Ond weithiau mae modd crynhoi rhywbeth yn fwy manwl a chynnil wrth ei gyfieithu - yn aml mae 'na eiriau 'da chi ddim yn eu disgwyl.
"Dyw e ddim yn syniad newydd, cyfieithu Shakespeare, wrth gwrs - mae actorion o Rwsia'n tueddu i ddweud bod y cyfieithiadau Rwsieg yn rhagori ar y gwreiddiol pob tro.
"Mae'r ffaith bod rhywun yn clywed y gwaith yn eu mamiaith yn siŵr o fod yn rhywbeth i wneud ag e."
'Dysgu am ein byd'
Dywedodd y dramodydd a'r beirniad theatr Paul Griffiths wrth Cymru Fyw: "Dwi ddim yn meddwl y byddwn i'n croesawu llwyfannu'r gwaith yn y Gymraeg dim ond er mwyn ei gael yn y Gymraeg.
"Ond eto, dwi wrth fy modd yn gweld cyflwyniadau sydd efo gwedd newydd yn y Gymraeg. Ar yr un pryd, mae angen parchu'r iaith a'r gwaith gwreiddiol.

Roedd 'na ganmoliaeth i'r actor o Dreffynnon Jonathan Pryce am ei bortread o'r brenin Lear yn 2012
"Ond mae'n gallu gweithio pan mae rhywun yn arbrofi efo'r deunydd - er enghraifft, weles i gwmni o Felarws yn perfformio'r Brenin Llŷr - do'n i ddim yn deall gair o'r iaith ond ro'n i'n deall yr ystyr ac arwyddocâd yr hyn oedd yn cael ei gyfleu.
"Mae modd i'r negeseuon yn y dramâu ddweud rhywbeth wrthon ni am y byd 'da ni'n byw ynddo heddiw. Mae gwaith Shakespeare yn hanesyddol - roedd y dramâu fel operâu sebon eu cyfnod, a phobl yn mynd i'r theatr i ddysgu hanes a beth oedd yn digwydd yn y byd."
Mae Daniel Evans yn cytuno bod dramâu Shakespeare yn dal i fod yn berthnasol heddiw, dros 400 mlynedd wedi ei farwolaeth:
"Mae 'na lawer o arbrofi'n digwydd yn Lloegr gyda gwaith Shakespeare - does dim rheswm pam na alla' ni wneud hynny yng Nghymru hefyd.
"Hefyd mae 'na berygl mewn dim ond gwneud gweithiau Cymraeg - wrth gwrs, mae hynny'n bwysig ac mae angen edrych ar ddramâu newydd a magu dramodwyr newydd.
"Ond mae 'na bethau'n digwydd ar draws y byd i gyd - ac os oes gwerth adfywio drama oherwydd ei bod hi'n dysgu rhywbeth i ni am y ffordd ry'n ni'n byw nawr, wel does dim ots ym mha iaith mae hynny."

Dyfan Dwyfor (chwith) yn 'Titus Andronicus'

☆ Cyhoeddwyd fersiwn wreiddiol yr erthygl yma ym mis Mawrth 2015 ☆
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2014
- Cyhoeddwyd7 Awst 2012