Bwrdd cwmni Tata i drafod dyfodol gwaith dur Port Talbot
- Cyhoeddwyd
Gallai dydd Mawrth fod yn un o'r dyddiau pwysicaf yn hanes gwaith dur Port Talbot, wrth i ddyfodol y safle gael ei drafod gan fwrdd rheoli cwmni dur Tata yn India.
Mae'r cwmni yn ystyried cynllun i achub y gwaith ac mae AS Aberafan, Stephen Kinnock, a swyddogion o undeb Community wedi teithio i Mumbai yn India i geisio perswadio.
Mae pryderon y bydd y safle ym Mhort Talbot yn cael ei gau yn gyfan gwbl.
Fis Ionawr, cyhoeddodd Tata eu bod yn bwriadu cael gwared ar 750 o swyddi ym Mhort Talbot.
Yn ôl y cwmni, "amodau anodd iawn o fewn y farchnad" sy'n gyfrifol wrth i brisiau yn Ewrop ostwng oherwydd mewnforion dur rhad o China.
'Dim cymorth'
Yn siarad ar Rhaglen Dylan Jones fore Mawrth, dywedodd AS Gorllewin Casnewydd, Paul Flynn ei bod yn "anodd bod yn obeithiol" am y cyfarfod yn India.
"Mae'n anodd bod yn obeithiol oblegid hanes y diwydiant dur sydd wedi bod hefo problemau a heb gael cymorth y llywodraeth ers blynyddoedd," meddai.
"Y broblem ydi - dydi'r llywodraeth ddim yn credu mewn diwydiant sylfaenol fel dur. Hefyd mae 'na broblem hefo allforion rhad o China."
Mae Tata yn cyflogi tua 5,500 o bobl yng Nghymru ac maen nhw wedi haneru eu gweithlu yn y DU dros y flwyddyn ddiwetha'.
Yr amcangyfrif yw eu bod nhw'n colli £1m y diwrnod ar y safle ym Mhort Talbot yn unig.
Fe ddywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, bod y gwaith dur yn "hollbwysig" i'r ardal.
Yn ôl Mr Cairns, mae Llywodraeth y DU yn bwriadu cydweithio gyda chwmni Tata i "drawsnewid" y safle ar gyfer y tymor hir.
Ychwanegodd bod y llywodraeth eisoes wedi rhoi cymorth i Tata gyda chostau ynni a thargedau amgylcheddol.
Fe ddywedodd hefyd eu bod yn gweithio gyda'r Comisiwn Ewropeaidd ar fesurau 'gwrth-ddympio' i ddelio â dur wedi'i fewnforio'n rhad o China.
'Diwrnod anodd'
Mae'r cynllun gweithredol fydd yn cael ei drafod ddydd Mawrth yn cael ei ystyried fel achubiaeth bosib i ddyfodol hirdymor y gwaith ym Mhort Talbot.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood: "Mae hwn yn ddiwrnod anodd i'r sawl sy'n gweithio yn y diwydiant dur wrth iddynt aros i glywed beth fydd y penderfyniad am ddyfodol gwaith dur Port Talbot.
"Mae gan Gymru draddodiad maith o gynhyrchu dur, a gallai'r diwydiant fod â dyfodol da yma gyda'r gefnogaeth iawn o du'r llywodraeth.
"Mae gennym weithlu dur gyda sgiliau a phrofiad yng Nghymru, ac yr wy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd ati i frwydro am eu dyfodol."
'Cefnogi a helpu'
Yr wythnos ddiwetha', fe wnaeth y Prif Weinidog David Cameron gefnogi ymdrechion Mr Kinnock a dywedodd fod Llywodraeth y DU eisiau "cefnogi a helpu" y diwydiant dur yn y DU.
Ychwanegodd fod amodau'r farchnad yn anodd ond bod y llywodraeth eisoes yn ceisio gweithredu i leddfu'r problemau trwy bethau fel cronfa iawndal gwladol.
Mae undeb Community wedi cwrdd â phrif weithredwr newydd Tata yn Ewrop wedi adroddiadau y gallai'r cwmni droi cefn ar ymdrechion i achub y gwaith dur ym Mhort Talbot.
Bydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud gan fwrdd Tata, ac mae disgwyl i'r cyfarfod ddydd Mawrth bara trwy gydol y dydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2016
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2016
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2016
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2016