Archdderwydd Yr Orsedd: Dim llacio'r rheol iaith
- Cyhoeddwyd
Mae Archdderwydd newydd Gorsedd y Beirdd o'r farn y dylid gwarchod safonau'r Orsedd, gan ddweud na ddylid llacio'r rheol iaith.
Daw ei sylwadau yn sgil llwyddiant y tîm pêl-droed cenedlaethol, wrth i amryw alw am anrhydeddu aelodau o'r garfan a'u rheolwr gyda rhai o anrhydeddau'r Orsedd, ond yn ôl y Prifardd Geraint Llifon, nid yw hynny'n gwbl addas, gan nad yw rhai ohonynt yn gallu'r Gymraeg.
Mewn ymateb mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi pwysleisio nad ydyn nhw'n rhan o'r broses o enwebu ac anrhydeddu unigolion, ond bod dyddiad cau'r enwebu ar gyfer eleni eisoes wedi pasio beth bynnag.
Fe benderfynodd Gorseddigion mai Geraint Lloyd Owen fydd yn gweithredu fel Archdderwydd am y cyfnod o 2016-19. Fe gafodd Cymru Fyw air gyda'r Prifardd cyn y Brifwyl yn Y Fenni eleni.
"Tydi'r Gymraeg ddim i ddod yn eilbeth i bob peth arall. Mae'r Gymraeg reit ar y top, y pwynt cyntaf.
"Ac os nad ydyn nhw'n gallu'r Gymraeg dydw i ddim yn gweld sut y mae croesawu nhw i mewn [i'r Orsedd], oherwydd y Gymraeg ydi'r arf fwyaf, cryfa' sydd ganddo ni fel cenedl, a hebddi 'does ganddo ni ddim byd.
"Tydw i ddim yn meddwl fod 'na neb [ar wahân i'r Frenhines] wedi cael eu hurddo i'r orsedd oni bai eu bod yn gallu'r Gymraeg, a beth mae hi wedi ei wneud ers iddi gael ei hurddo dwch?"
Yn wreiddiol o'r Sarnau, Penllyn, dechreuodd Mr Owen ei yrfa fel athro ym Machynlleth ac yna bu'n dysgu mewn amryw o ysgolion cyn ymddeol yn gynnar i redeg Siop y Pentan yng Nghaernarfon. Bellach, mae'n Bennaeth Cyhoeddi yng Ngwasg y Bwthyn.
Dywedodd Geraint Llifon nad yw'n bwriadu defnyddio'r rôl i wneud unrhyw ddatganiadau "gwleidyddol ac ymfflamychol".
'Ddim yn berson ymfflamychol'
"Tydw i ddim yn berson ymfflamychol o gwbl, tydw i ddim yn berson sy'n mynd i greu emosiwn mawr ynglŷn â dim byd. Tydw i ddim yn berson gwleidyddol o gwbl. Felly fydd fy anerchiadau i ddim yn rhai fydd yn hollti teimladau'r gynulleidfa mewn unrhyw fodd.
"Dwi jyst ym mynd i gymryd pethau fel maen nhw'n dod... Mi fyddai yn trio bod yn fi fy hun... Ond mi wnewch chi byth blesio pawb.
"Dwi'n ymwybodol ers blynyddoedd fod rhywun yn dilyn llinach arbennig iawn iawn o gyn archdderwyddon, ac mae 'na rhai da iawn iawn wedi bod, ac roeddwn i'n teimlo mod i'n camu i'r sgidia rheini.
"Os fedrai gamu i sgidiau Christine a gwneud rhywbeth yn debyg, fydd hynny ddim yn ddrwg o gwbl."
'Gwell gwobrwyo'r bobl ddistaw'
Pwynt arall mae'r Archdderwydd newydd wedi ei godi ydi'r ffaith na ddylai pobl gael eu gwobrwyo a'u hanrhydeddu am gyflawni eu swyddi neu bethau maent yn derbyn tâl am wneud.
"A dwi hefyd yn credu'n gydwybodol ers blynyddoedd, fod 'na rhywbeth yn annheg mewn derbyn pobl i mewn i Orsedd y Beirdd yr Eisteddfod Genedlaethol os ydyn nhw'n cael eu talu am wneud eu gwaith bob dydd.
"Bysa'n llawer iawn gwell gen i weld y bobl ddistaw, dawel yma sy'n gweithio'n eu cymunedau yng nghefn gwlad neu ble bynnag, ac sydd wedi rhoi eu hysgwydd o dan y baich i ofalu fod pethau'n mynd ymlaen a bod y Gymraeg yn cael ei chynnal yn gymdeithasol."
Fe gafodd Cymru Fyw sgwrs gyda Geraint Llifon hefyd ar ôl iddo dderbyn yr anrhydedd y llynedd, ac fe allwch chi ddarllen yr erthygl yma.