Yr ifanc a ŵyr? Yr Hardys
- Cyhoeddwyd

Dau gyflwynydd, a thad a mab, John a Geraint Hardy sydd wedi bod yn trafod ei gilydd yn y diweddaraf o'n herthyglau am berthynas deuluol.
Yn wreiddiol o Fangor, mae John yn wyneb a llais cyfarwydd fel gohebydd a sylwebydd chwaraeon a chyflwynydd radio. Mae ei fab ieuengaf, Geraint, sy'n 31 oed, hefyd yn gyflwynydd teledu a radio.
Cafodd ef a'i frawd Daniel eu magu yn Efail Isaf ger Pontypridd ond mae Geraint bellach yn byw yng Nghaerdydd gyda'i gariad Llinos a'u mab Jac sy'n 16 mis.

Geraint Hardy: "Mae wedi fy siapio i fel person"
Mae Dad a fi wastad wedi bod â pherthynas dda ac rydyn ni'n rhannu lot o'r un diddordebau: chwaraeon, chwaraeon, chwaraeon.
Ŷn ni'n ffrindiau ac yn mwynhau cwmni ein gilydd, ŷn ni'n hoff o chwarae golff pryd bynnag fedrwn ni ac fe gafon ni haf bach gwych yn gwylio anturiaethau tîm pêl-droed Cymru yn Ffrainc yn 2016.
Dad oedd yr unig berson o'n i ishe rhannu'r profiad yna gydag e gan ei fod wedi bod i bob man yn dilyn Cymru, felly ges i gymaint o bleser yn ei weld yn dathlu, yn enwedig yn gêm Cymru v Rwsia. Er bod Dad yn dal i feddwl fod angen gôl arall ar Gymru hyd yn oed pan o'n ni'n ennill o 3-0.
Nath e ddim ymlacio a mwynhau'r fuddugoliaeth tan y chwiban olaf.
Os oes problem neu dwi angen cyngor am unrhyw beth, Dad ydi'r person cyntaf dwi'n troi ato - anaml dwi'n gwrando ar ei gyngor ond dwi wastad yn gofyn ei farn!
'Backward flip'
O'dd Dad yn dad cŵl i'w gael a'i swydd e'n bennaf o'dd yn gyfrifol am hynny; o'dd rhifau ffôn pêl-droedwyr yn ei ffôn, o'dd e'n nabod pobl fel Mark Hughes ac o'dd e wastad yn mynd i'r Gemau Olympaidd.
Dwi hefyd yn cofio meddwl bod Dad yn anhygoel gan ei fod yn gallu neud backward flip i fewn i bwll nofio. Fel plentyn dwi'n cofio bob haf gofyn iddo neud dro ar ôl tro. Falle'r haf nesa' nai ofyn iddo os yw e'n dal yn gallu neud un - dwi'n tybio mai'r ateb fydd na ...

John Hardy ynghanol archif BBC Cymru i'r rhaglen Cofio
O ran y swydd rydw i ynddi, fe gafodd swydd Dad argraff enfawr arnaf - ei brif swydd oedd gwylio pêl-droed, pwy fyse ddim yn hoffi hynny? Ond mae Mam yn hoff o berfformio hefyd felly o bosib fod y diddordeb wedi dod gan y ddau ohonyn nhw.
Roedd yn dad eitha' hamddenol ond os oeddwn i neu fy mrawd Daniel yn cael mewn i drwbl mae'n deg i ddweud bod arnon ni eitha' ofn Dad. Mae'n gallu gweiddi yn uchel iawn - chwyrnu yn uwch cofiwch - ond os oedden ni'n mynd yn rhy bell oedd na row go iawn i gael.
Fyswn i ddim yn dweud ein bod ni'n debyg. Dwi'n poeni am bethe lot llai na Dad, dwi chwarter awr yn hwyr i bob man a ma' Dad chwarter awr yn gynnar. Dwi'n anhygoel yn chwarae golff, 'di Dad ddim cystal - na, jôc yw hwnna!
Ond ar y llaw arall mae lot o bobl sydd wedi gweithio gyda Dad a gyda fi yn dweud ein bod ni'n debyg iawn o ran ein natur a'n ffordd o weithio.
Byth yn hwyr
Pe bai Dad ddim yn ddarlledwr, fe fyddai'n wych am redeg cwmni bysus neu drenau gan ei fod wastad ar amser - fyse ei drenau e byth yn hwyr ma' hynny'n sicr.
Ychydig sy'n gwybod ei fod yn gogydd da, mae'n mwynhau coginio ac mae'n dda yn trin rhifau a thrafod hanes hefyd. Ond un peth sy'n sicr, peidiwch byth a gofyn iddo ddawnsio - dwi mor falch nad oes Strictly Come Dancing ar S4C.
Dwi 'di dysgu lot gan Dad, yn bennaf sut i drin pobl. Ma' Dad 'di rhoi bob dim a mwy i mi ac wedi fy siapio i fel person. Dwi'n browd iawn o'i gael o fel tad ac os ydyn ni'n debyg, fel ma' pobl yn gweud, dwi'n meddwl bod hynny yn beth da iawn.
Dwi'n falch iawn o fod yn fab iddo ac yn parchu a mwynhau pob eiliad yn ei gwmni - er bo fi'n troi fyny chwarter awr yn hwyr bob tro 'da ni'n cwrdd ...

John Hardy: "Tydi o byth am sefyll yn llonydd."
Y bardd Phillip Larkin ganodd am sut mae rhieni yn pasio eu gwendidau ymlaen i'w plant felly peth peryg ar y naw yw cwyno am eich epil.
Soniodd neb fod y rhinweddau hefyd weithiau yn ymddangos ac nid trwy gyd-ddigwyddiad mae enwau fy nau i yn talfyrru i DanGer.
Mae rhiant wastad yn poeni am yr alwad ffôn sy'n dechrau gyda'r geiriau: "Fyddi di ddim yn licio hyn". Yn achos Geraint colli pethau tramor, fatha arian a thocynnau oedd y broblem - dim byd nad oedd yn bosib ei oresgyn.

Mae Geraint Hardy yn cyflwyno'r rhaglen Llond Ceg a Clwb 2 ar S4C a'r sioe frecwast ar Capital FM.
Well i mi ddweud o'r cychwyn cyntaf y buaswn yn falch iawn o'r hogiau, y Mawr a'r Bych, Daniel a Geraint, ta waeth beth fuasai eu sefyllfa bresennol.
Crïo'n ddi-baid!
Tydi bywyd heb fod yn fêl i gyd o bell ffordd ond rhywsut mae'r ddau wedi goroesi i fod yn ddynion sydd ddim ofn gwaith ac yn dadau cariadus i'w teuluoedd.
O ran y Bych, sef Geraint, ers iddo gyrraedd tair wythnos yn gynnar a chrïo yn ddi-baid am ddwy flynedd gan amharu ar gwsg yr aelwyd tydw i heb gael yr un eiliad o drafferth.
Mae 'di bod yn drwyadl ac yn gydwybodol yn ei waith, er fod ei syniad o degwch yn golygu weithiau fod dadl efo Ger yn para am oriau.
Syniad Ger o ennill dadl ydi siarad nes mae pawb arall yn rhoi'r gorau iddi drwy flinder gan adael un gŵr yn fuddugoliaethus.
'Adam'
Mae dyfeisgarwch yn rhedeg trwy ei wythiennau, pan ar wyliau tramor teuluol roedd ei enw yn peri problemau i blant arall (pam fod Geraint yn gymaint o broblem dwi ddim yn gwybod!) felly roedd yn ei newid i Adam, sef ei arwr o'r cartŵn He-Man. Ac os oedd newid ei enw'n caniatáu iddo gymysgu efo plant eraill roedd o'n fwy na bodlon i fod yn Adam.
Mae o wastad wedi bod yn un am gymysgu ac yn un am deithio hefyd. Mi aeth e a fi yn ddiweddar i'r Ewros a gwneud siŵr bod Dad yn cyrraedd adre'n ddiogel.
Fel anrheg penblwydd 60 mae Daniel a Geraint am fynd â fi i Madrid i weld Gareth Bale yn chwarae. Jyst gobeithio byddwn ni'n dod adre'n ddiogel o fanna hefyd.
Yn groes i'r gred gyffredinol nes i ddim gwthio Geraint fewn i'r cyfryngau a tydw i heb ddylanwadu na'i helpu efo'i yrfa ychwaith. Mae'r diolch yn mynd i'w athrawes ddrama yn Ysgol Llanhari, Lowri Cynan, a disgyblaeth coleg LIPA yn Lerpwl.

Jac a Geraint: "ar yr un donfedd"!
Mae'r clod hefyd yn mynd i Geraint ei hunan sydd wastad yn awyddus i wella a mentro i feysydd newydd. Efallai fod hynny'n gryfder ac yn wendid - tydio byth am sefyll yn llonydd.
I fod yn deg tydio ddim yn cael sefyll yn llonydd y dyddiau yma. Pan yn fach roedd gan Geraint ddau gariad sef y gath a'i wely. Syndod ydi ei weld yn hepgor ei wely er mwyn codi yn y bore bach i gyflwyno rhaglen frecwast er mwyn cynnal dau gariad arall, sef Llinos a Jac.
Fuodd Ger erioed yn foregodwr ond teg dweud ei fod wedi mopio efo Llinos a Jac a mae o dipyn gwell tad nag oeddwn i. Mae gweld fo a Jac yn chwarae efo'i gilydd yn bleser pur - mae gan Ger y ddawn brin sy'n ei alluogi i fod ar yr un donfedd â phlant!
Rŵan rhag i chi feddwl fod y mab fenga yn sant mae ganddo un gwendid MAWR. Gwendid sydd yn anathema i fi ac yn achos aniddigrwydd cyson.
Mae'n wendid sydd yn ddiarhebol a phe baech chi'n gofyn i'w ffrindiau a'i deulu mae'n rhan annatod o gymeriad Geraint Wyn Hardy. Mae o wastad yn hwyr!!
Mi fydd Ger yn hwyr i'w angladd a dwi 'di treulio oriau lawer yn disgwyl amdano i droi fyny. Toes yna 'mond dau gysur. Mae ei esgusodion yn ddiddorol a'i gwmni werth ei gael.