Alltudio: Gobaith i fyfyriwr o Gaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Bashir Naderi gyda'i gariad Nicole CooperFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bashir Naderi gyda'i gariad Nicole Cooper

Fe ddywed cyfeillion myfyriwr o Gaerdydd sy'n wynebu cael ei alltudio i Afghanistan bod y Swyddfa Gartref wedi cytuno i adolygu eu penderfyniad.

Roedd Bashir Naderi, 19 oed ac sydd wedi byw yng Nghaerdydd ers naw mlynedd, i fod i gael ei alltudio yr wythnos diwethaf, ond fe wnaeth barnwr atal hynny oriau cyn i'w awyren adael.

Fe wnaeth cyfreithiwr wneud cais am adolygiad barnwrol ar ei ran, ac maen nhw wedi dweud wrtho fod "datblygiadau positif" wedi digwydd.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref nad ydyn nhw'n fodlon gwneud sylw ar achosion unigol.

Mae nifer o wleidyddion wedi cefnogi apêl Mr Naderi, ac mae deiseb ar-lein wedi cael ei harwyddo gan bobl ar draws y byd.

'Syfrdanu'

Dywedodd cariad Mr Naderi, Nicole Cooper: "Rydym wedi ein syfrdanu bod deiseb Bashir wedi cael bron i 13,000 o gefnogwyr.

"Doedd gennym ni ddim syniad bod modd gwneud hyn, ac ry'n ni mor ddiolchgar.

"Er bod y newyddion yma'n ddatblygiad arwyddocaol ar ddiwedd wythnosau o ansicrwydd a phryder, mae Bash a'i deulu yn gwybod mai megis dechrau yw hyn.

"Ond mae hyn yn rhoi'r cyfle i ni gyflwyno'r dystiolaeth ysgubol sy'n cefnogi achos Bash."

Mae Mr Naderi wedi byw gyda'i deulu mabwysiedig yng Nghaerdydd ers cyrraedd y DU naw mlynedd yn ôl, ac wedi bod yn astudio yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro yn ddiweddar. Mae Ms Cooper yn credu bod y Swyddfa Gartref nawr am ei alltudio am ei fod yn oedolyn.

Fe wnaeth mam Mr Naderi dalu iddo gael ei symud i'r DU pan oedd yn 10 oed wedi i'w dad - oedd yn blismon yn Afghanistan - gael ei ladd gan y Taliban. Nid yw Mr Naderi wedi siarad gyda'i deulu yn Afghanistan ers hynny.