Felix Aubel yn ymddiheuro am sylwadau dadleuol
- Cyhoeddwyd
Mae'r gweinidog Annibynnol ac aelod amlwg o'r blaid Geidwadol Dr Felix Aubel wedi ymddiheuro am sylw yr oedd wedi ei wneud ar wefan Twitter wythnos diwethaf.
Roedd wedi ymateb i neges gan flogiwr asgell dde eithafol o Sweden drwy ofyn a ddylai Cristnogion yn Ewrop wneud yr hyn a wnaeth pobl Sbaen ar ddiwedd yr Oesoedd Canol.
Roedd yn cyfeirio at Chwil-lys Sbaen - y 'Spanish Inquisition' - pan gafodd Mwslemiaid ac Iddewon eu herlid a'u harteithio wrth gael eu llosgi.
Yn dilyn cyhoeddi'r neges wreiddiol, cafodd ei feirniadu a'i gyhuddo o gefnogi erledigaeth grefyddol.
Mewn neges ar wefan Twitter nos Lun dywedodd Dr Aubel ei fod yn "ymddiheuro ac yn edifarhau am y trydariad".
Ychwanegodd ei fod yn "teimlo cywilydd mawr oherwydd y boen a'r siom" yr oedd wedi ei achosi i bawb gan y cwestiwn yr oedd wedi ei ofyn.
Yn dilyn y trydariad gwreiddiol roedd llefarwyr ar ran yr eglwysi annibynnol yng Nghymru wedi ei gyhuddo o "bardduo" Cristnogion gyda'i sylwadau.
Yn ei ymateb i BBC Cymru yn dilyn cyhoeddi'r neges wreiddiol, sydd bellach wedi ei ddileu, dywedodd Felix Aubel fod camddealltwriaeth wedi bod.
"Roeddwn i'n gofyn cwestiwn pen agored am sylwadau gwrth-grefyddol y trydariad, ac nid yn gwneud datganiad," meddai Dr Aubel, sy'n weinidog ar nifer o gapeli yn ardal Caerfyrddin.
"Rwyf o dras cymysg fy hun ac nid ydw i'n cytuno gydag unrhyw ragfarn grefyddol neu hiliol."
Fe ddaeth teulu Dr Aubel, sydd yn hanu o Slofenia, i dde Cymru fel ffoaduriaid wedi'r Ail Ryfel Byd.