Dedfrydu mwy am greulondeb anifeiliaid yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
CeginFfynhonnell y llun, RSPCA
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd hyd i eryr aur mewn amgylchiadau budr mewn fflat yn nhref Penfro

Mae RSPCA Cymru wedi galw am gyflwyno cofrestr o bobl sydd yn cael eu canfod yn euog o gam-drin anifeiliaid a'u gwahardd rhag eu cadw.

Daw apêl yr elusen wrth i ffigyrau ddangos bod 120 o ddedfrydau wedi eu rhoi mewn llysoedd ynadon yn 2016 yn ymwneud â lles anifeiliaid - mwy na'r ddwy flynedd flaenorol.

Dywedodd yr elusen eu bod hefyd am weld dedfrydau llymach, a hynny'n dilyn y "cyfres o weithredoedd creulon" sydd wedi dod i sylw'r awdurdodau.

"Bob blwyddyn rydw i'n tristau a brawychu o weld lefel y cam-drin, esgeulustra a chreulondeb yn erbyn anifeiliaid ar draws Cymru," meddai Martyn Hubbard, uwch-arolygydd RSPCA Cymru.

10,540 o gwynion

Mae'r achosion gafodd eu gweld gan swyddogion yr elusen yn 2016 yn cynnwys:

  • Dyn o Wrecsam gafodd ei garcharu am 24 wythnos ar ôl bwydo cocên i gi cyn torri ei glust i ffwrdd;

  • Cwningen gafodd ei lwgu i farwolaeth mewn cwpwrdd yn Abertawe, ble cafwyd hyd hefyd i dair neidr ŷd oedd wedi marw o ddiffyg golau, bwyd a dŵr;

  • Dyn gafodd ei ddirwyo ar ôl cael ei ddal ar gamera cylch cyfyng yn saethu ci gyda gwn lastig;

  • Eryr aur oedd yn cael ei gadw mewn cegin fudr yn Sir Benfro oedd yn llawn gwydr wedi torri a baw.

Yn 2016 fe wnaeth yr RSPCA ymchwilio i 10,540 o gwynion yn ymwneud â chreulondeb yng Nghymru - cynnydd o 6.5% o'i gymharu â'r flwyddyn gynt.

Yn ogystal â'r 120 o ddedfrydau yn erbyn 61 o unigolion llynedd, cafodd 67 o droseddwyr eu rhybuddio.

"Dyw hyn ddim yn awgrymu bod mwy o greulondeb yn digwydd o reidrwydd - ond bod pobl yng Nghymru o bosib yn fwy parod i adrodd, a bod y cyfryngau cymdeithasol yn dod yn ffordd well o amlygu digwyddiadau," meddai Mr Hubbard.

Ychwanegodd Claire Lawson, is-gyfarwyddwr materion allanol RSPCA Cymru, fod "bron i naw o bob deg person yng Nghymru yn cefnogi cyflwyno cofrestr troseddwyr, a fyddai'n gam allweddol ymlaen wrth ddiogelu anifeiliaid".