Twristiaeth: 'Angen dyblu gwariant'
- Cyhoeddwyd
Mae adroddiad newydd gan arbenigwr yn y maes yn dweud y dylid o leia' dyblu'r arian sy'n cael ei wario ar farchnata Cymru fel cyrchfan i dwristiaid.
Fe ddywed yr Athro Annette Pritchard bod Croeso Cymru - y corff sy'n gyfrifol am hybu twristiaeth - yn cystadlu yn erbyn asiantaethau twristiaeth eraill Prydain "sydd â llawer mwy o adnoddau na Croeso Cymru".
Yn 2013-14 fe wariodd Croeso Cymru £7 miliwn i ddenu ymwelwyr. Dros yr un cyfnod fe wariodd Visit Scotland £47.5m, Tourism Ireland £36m a Visit England £11m.
Dywedodd yr Athro Pritchard, cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Twristiaeth Cymru - bod gan yr hen Fwrdd Twristiaeth Cymru gyllideb marchnata o £50m yn 2006 cyn i'r corff gael ei lyncu i fod yn rhan o Lywodraeth Cymru.
Gostyngiad
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod ar y trywydd iawn i wella ar y nod o dyfu'r sector o 10% erbyn 2020 yn unol â'i strategaeth twristiaeth a gyhoeddwyd y llynedd.
Mae adroddiad yr Athro Pritchard yn dweud bod y gostyngiad mewn gwariant ar farchnata ers 2006 wedi cyd-fynd â "chwymp yn nifer y twristiaid sy'n dod i Gymru, yn enwedig o'r farchnad dramor lle mae Cymru'n llawer llai adnabyddus nag yn y farchnad ddomestig".
"Mae'r gwahaniaeth mewn cyllido yn syndod i mi," meddai. "Fe fyddwn i wedi disgwyl cwymp yn y gwariant, ond fe fyddwn i hefyd wedi disgwyl i'r cwymp fod yn eitha' cyfartal ar draws y DU fel ein bod yn cystadlu'n gyfartal.
"Yn amlwg dyw hynny ddim yn wir - mae Croeso Cymru yn cystadlu mewn maes gwahanol iawn i'w chystadleuwyr, ac mae'r rhain i gyd â mwy o adnoddau na Chroeso Cymru."
Cafodd strategaeth twristiaeth Llywodraeth Cymru, dolen allanol ei chyhoeddi flwyddyn yn ôl gyda'r nod o gynyddu nifer yr ymwelwyr o dramor sy'n draddodiadol yn gwario mwy.
Yr wythnos hon dywedodd y Gweinidog Busnes Edwina Hart bod y flwyddyn gyntaf wedi bod yn llwyddiannus gan gynyddu'r nifer o ymwelwyr o dramor am y tro cyntaf ers 2006.
Yn ôl Llywodraeth Cymru daeth 884,000 o ymwelwyr o dramor i Gymru yn 2013 - 4% yn uwch na 2012 - gyda'r ymweliadau hynny yn werth £353m i economi Cymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mai 2014
- Cyhoeddwyd13 Mai 2014
- Cyhoeddwyd12 Mai 2014
- Cyhoeddwyd16 Ebrill 2014
- Cyhoeddwyd17 Mehefin 2013